Gwasgaru llwch anwyliaid ar safle hanesyddol 'ddim yn syniad da'
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid Cadw yn pryderu bod cymaint o bobl yn mynd i un o’u safleoedd hanesyddol ar Ynys Môn i wasgaru llwch eu hanwyliaid.
Ers y cyfnod clo mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n ymddiddori yn eu treftadaeth.
Un sgil effaith ydy bod mwy yn mynd â gweddillion y meirw i siambr gladdu hynafol Bryn Celli Ddu - yn aml heb ganiatâd.
Mae’r safle, ger Llanddaniel Fab, yn un o brif leoliadau Oes y Cerrig sy’n cael ei reoli gan Cadw.
'Chydig bach o broblem'
Ers blynyddoedd mae wedi dod yn lle poblogaidd er mwyn gweld yr haul yn gwawrio ar ddiwrnod hirddydd haf, gyda defodau gan Dderwyddon Môn yn cael eu cynnal yno.
Ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd yr archeolegydd Dr Ffion Reynolds bod y cyhoedd wedi ail-gysylltu gyda llên gwerin ers iddyn nhw orfod aros yn lleol yn ystod y pandemig.
“Mae ein safleoedd ni, ein safleoedd cyn hanesyddol ni, yn lot, lot fwy poblogaidd nag oedden nhw 10 mlynedd yn ôl," meddai.
“Er enghraifft Bryn Celli Ddu, 10 mlynedd nôl roedden ni’n cael tua 10,000 o bobl y flwyddyn. Nawr ni’n cael 30 [mil], so mae 'na lot mwy o bobl yn dod.
“Ond un o’r pethau sy’n ddiddorol ydy bod pobl yn dod a gadael gweddillion yna a weithia' ti angen dysgu pobl mae hynny ddim rili yn mynd i fod yn syniad da achos mae’r henebion yma yn cael eu defnyddio fel henebion i bobl ddod fel safleoedd twristiaeth.”
Ychwanegodd Ms Reynolds, sy’n uwch reolwr digwyddiadau treftadaeth a chelfyddydau Cadw, bod pobl yn “gadael gweddillion teuluol - llwch - heb ganiatâd”.
“Mae o’n 'chydig bach o broblem," meddai.
"Mae o jest achos mae’r safleoedd yma yn llefydd twristiaeth - maen nhw ddim yn llefydd sanctaidd felly dy’n nhw ddim yn cael eu delio fel llefydd sanctaidd.
"Ar ôl y pandemig mae lot fwy o ddiddordeb, ac un o’r pethe sy’n dod mas yw hynne."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd12 Medi