Corff treftadaeth Cadw yn dathlu'r deugain
- Cyhoeddwyd
Mae eleni yn garreg filltir go arbennig i gorff treftadaeth Cymru, Cadw, gan ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 40.
Yn ogystal, mae hi'n 75 mlynedd ers i adeiladau hanesyddol gael eu rhoi ar restr yng Nghymru, gan roi statws cadwraeth arbennig iddynt.
Cafodd Cadw ei sefydlu yn ystod tymor yr Hydref yn 1984 fel asiantaeth ar y cyd ar gyfer Swyddfa Cymru a Bwrdd Twristiaeth Cymru.
Daeth yn gyfrifol am 10,500 o adeiladau rhestredig a 2,700 o gofebau yr Adran Amgylchedd.
Y bwriad oedd diogelu a hyrwyddo treftadaeth Cymru i ymwelwyr, ac ers hynny, mae 20,000 yn rhagor o adeiladau a henebion hanesyddol wedi derbyn statws gwarchodedig.
Daeth ton gyntaf yr adeiladau rhestredig ym mis Mai 1949.
Roedd yn cynnwys prif adeilad Prifysgol Bangor a Neuadd y Dre Bangor, sef Plas yr Esgob gynt, sydd â’i wreiddiau yn y 16eg Ganrif.
Powys yw’r sir sydd â’r nifer fwyaf o adeiladau neu henebion rhestredig, gyda bron i 5,500, a sir leiaf Cymru, Merthyr Tudful sy’n ail ar y rhestr - sy'n adlewyrchu ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog.
Mae dros 1,000 o eglwysi wedi eu rhestru, tua 670 o gapeli, dros 300 o dafarndai, 94 o gestyll a 25 o oleudai.
Mae bron hanner yr asedau sydd wedi’u rhestru yn gartrefi gyda dros 2,000 â chysylltiad gyda thrafnidiaeth a 2,350 i’r diwydiant ffermio.
Dywedodd Gwilym Hughes, pennaeth Cadw, fod gan Gymru un o’r canrannau uchaf o adeiladau hanesyddol yn Ewrop.
“Mae tua 30% o holl adeiladau preswyl Cymru yn dyddio nôl i cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae hynny’n anhygoel,” meddai.
“Ry’ ni wedi rhestru rhai pethau rhyfedd dros y blynyddoedd – o giosg afal yn y Mwmbwls, sy’n gerflun od, i flwch ffonio heddlu glas yng Nghasnewydd.
"Ac yn Nhredegar ry'n ni wedi rhestru lwmp o lo, wel dydi o ddim jyst yn lwmp mae’n 15 tunnell o lo. Dyma’r mwya’ o lo sydd wedi’i gloddio a’i gerflunio... dim ond yng Nghymru!”
Draw yn Y Barri, Bro Morgannwg mae ‘na 57 o henebion ar y rhestr sy’n amrywio o dŷ bad achub i doiled cyhoeddus sy'n wynebu’r môr.
Y diweddaraf i gael ei amddiffyn yw gorsaf reilffordd Ynys Y Barri, sy’n cael ei disgrifio fel “enghraifft dda o orsaf drenau o ddiwedd y 19eg Ganrif".
“Dydi o ddim wedi newid, sy'n ei wneud yn arbennig ac mae'n adlewyrchu Y Barri yn ystod cyfnod Fictoraidd hwyr,” ychwanegodd Mr Hughes.
"Cafodd ei sefydlu ym 1884 pan oedd y dociau'n dechrau cael eu hadeiladu ac mi dyfodd y dref yn aruthrol o bentre’ bach i dref o 30,000 o bobl o fewn tua 10 mlynedd.
"Mae'r orsaf yma’n adlewyrchu'r stori honno o dwf anhygoel."
Mae Dennis Clarke yn byw yn y Llys yn Nhregatwg ger Y Barri, sy'n gartref i golomendy rhestredig Gradd un - yr unig adeilad rhestredig Gradd un yn y dref.
"Mae'r colomendy yma dros 800 mlwydd oed. Yn y dyddiau hynny doedd gennych chi ddim colomendy oni bai eich bod yn hynod gyfoethog," meddai.
"Byddai wedi bod yn symbol o statws ond hefyd yn ffynhonnell bwysig iawn o bob math o bethau, gan gynnwys cig, plu, wyau ac mi oedd hyd yn oed powdr gwn yn cael ei gadw y tu mewn iddo."
'Braint cael byw yma'
Symudodd Mr Clarke i'r eiddo bron i 10 mlynedd yn ôl ac mae'n rhoi teithiau tywys sydd wedi’u cymeradwyo gan Cadw.
"Mae'n anffodus mai dyma'r unig ran o'r plasty sydd wedi goroesi," ychwanegodd.
"Yn ôl y chwedl, fe'i llosgwyd i lawr gan Owain Glyndŵr. Cafodd ei ailadeiladu gan y perchnogion yn y 15fed ganrif ond yna syrthiodd i gyflwr gwael ac adeiladwyd y rheithordy Gradd 2 - sydd bellach yn gartref i ni - yn 1873."
Dywedodd ei bod yn “fraint cael byw yma ond yr hyn sy'n mynd gyda'r fraint honno yw'r cyfrifoldeb i edrych ar ei ôl, felly gobeithio bydd y bobl nesaf sy'n dod draw ar ôl i fynd, yn teimlo'r un ffordd ag yr ydyn ni.
Mae dros 50 o adeiladau gradd dau wedi’u hychwanegu at y rhestr ers dechrau 2023, gan gynnwys 13 eleni.
Y diweddaraf yw Eglwys Gatholig 'Christ The King' yn Llanfair ym Muallt, Powys, sy’n dyddio nôl i’r 1950au.
Cafodd garej a llety y credir iddo gael ei ddefnyddio gan chauffeurs yn gyrru twristiaid aristocratig i Fae Colwyn, sy’n dyddio o Oes Fictoria eu hychwanegu hefyd.
O dan warchodaeth dros dro gyda’r bwriad o’u rhestru, mae canolfan gelfyddydau fodern Aberystwyth a llyfrgell y brifysgol sy’n dyddio nôl i'r 1970au.
Yn 2023, cafodd rhestr nodedig Gradd dau ei roi i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol, Plas Menai yng Ngwynedd hefyd.
Bydd digwyddiadau drysau agored a theithiau yn cael eu cynnal fis Medi mewn cannoedd o safleoedd hanesyddol fel rhan o raglen Cadw, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf