Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 20 oed o ardal Trowbridge ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Daw'n dilyn ymchwiliad i farwolaeth dyn 43 oed yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd, am tua 16:00 ddydd Mawrth, 12 Tachwedd.
Roedd y gwasanaethau brys wedi ymateb i adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Paul Raikes o'r Tîm Ymchwiliadau Troseddau:"Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
"Rydym yn parhau i ymchwilio i’r mater, ac yn apelio ar unrhyw dystion oedd yn ardaloedd Heol Trostre a Coleford Drive yn Llaneirwg ddydd Mawrth am tua 16:00, i gyflwyno gwybodaeth, hyd yn oed petai'n ymddangos yn ddi-nod."
"Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â ffilm ffôn symudol neu gamera cylch cyfyng i gysylltu â ni os gwelwch yn dda."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024