Llanbed: Arestio dyn wedi gwrthdrawiad gyda beic modur

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A485 rhwng Llanbed a Llangybi
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fenyw ar feic modur gael ei hanafu mewn gwrthdrawiad ar gyrion Llanbedr Pont Steffan.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pick-up Toyota du - oedd yn cario trelar - a beic modur Harley Davidson glas ar yr A485 rhwng Llanbed a Llangybi ychydig cyn 15:00 ddydd Llun.
Cafodd y fenyw oedd ar y beic modur ei chludo i’r ysbyty, ond y gred yw nad yw ei hanafiadau yn peryglu ei bywyd.
Mae dyn 66 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf trwy yrru'n beryglus, ac mae wedi'i ryddhau dan ymchwiliad tra bo'r heddlu'n gwneud ymholiadau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu i unrhyw un sydd â fideo dashcam a allai helpu’r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.