Cymraes fu'n y ddalfa yn UDA 'wedi bod drwy brofiad ofnadwy'

Becky Burke a'i chiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becky wedi dychwelyd adref ar ôl cael ei chadw yn y ddalfa yn yr UDA

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes gafodd ei chadw mewn canolfan fewnfudo yn yr Unol Daleithiau bellach wedi dychwelyd i'r DU.

Roedd Becky Burke, 28 o Sir Fynwy, wedi cael ei chadw mewn canolfan sy'n prosesu mewnfudwyr yn nhalaith Washington am dros bythefnos.

Cyrhaeddodd Ms Burke Efrog Newydd ar 7 Ionawr i ddechrau teithiau cerdded ar draws gogledd America, oedd fod i bara pedwar mis.

Ond ar ôl ymweld â gwahanol rannau o'r UDA ei bwriad oedd teithio i Vancouver yng Nghanada, ond cafodd ei gwrthod rhag cael mynediad i'r wlad gan swyddogion rheoli ffiniau.

Becky Burke.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cyrhaeddodd Becky Burke yr Unol Daleithiau ar 7 Ionawr

Honnodd Ms Burke fod swyddogion Americanaidd wedi ei chwestiynu, ac wedi dod i'r casgliad ei bod wedi torri amodau ei fisa am ei bod yn aros gyda theuluoedd ac yn "helpu o amgylch y tŷ" yn gyfnewid am lety.

Dywedodd ei thad fod yr amodau yn y ganolfan lle cafodd Ms Burke ei chadw am 19 diwrnod yn "erchyll".

Fe gadarnhaodd y teulu fod Becky wedi glanio ym Maes Awyr Heathrow brynhawn Mawrth - lle'r oedd teulu a ffrindiau yn aros amdani.

Dywedodd Customs and Border Protection (CBP) yn yr Unol Daleithiau mewn datganiad blaenorol nad oedd modd iddynt wneud sylw ar achosion penodol.

Andrea a Paul Burke
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweld Becky yn cyrraedd y maes awyr yn brofiad emosiynol, meddai Andrea a Paul Burke

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd rhieni Becky, Paul ac Andrea Burke fod eu merch wedi bod trwy brofiad ofnadwy, ond ei bod yn falch o fod adref.

"Mae hi'n mwynhau'r pethau bach y mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn eu cymryd yn ganiataol - eistedd yn yr ardd, gwely cyfforddus a dillad cynnes," meddai Mr Burke.

"Am 19 diwrnod roedd hi'n gwisgo'r un dillad yn y carchar... cafodd hi ei chludo i'r ganolfan gyda chyffion ar ei choesau, rownd ei chanol ac ar ei dwylo."

Ychwanegodd Ms Burke fod gweld ei merch yn cyrraedd y maes awyr yn brofiad "emosiynol iawn".

"Roedd hi'n teimlo fel ein bod ni wedi bod yn aros ers oes... pan rydych chi wedi bod yn aros mor hir, i weld hi wedyn yn cerdded drwy'r giatiau, roedd yr holl emosiynau yn dod allan."

Pynciau cysylltiedig