'Cyfnod pryderus' wrth i Gôr Ieuenctid Cymru ddathlu'r 40
- Cyhoeddwyd
Mae Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (CICC) yn dathlu'i ben-blwydd yn 40 eleni a hynny yng nghanol cyfnod "pryderus" i'r celfyddydau.
Mae'r sector yn wynebu gostyngiad o 10.5% yn eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru eleni.
Dywedodd Tim Rhys-Evans, arweinydd y côr a sylfaenydd elusen Aloud fod y sefyllfa yn "ofidus iawn" a'i fod yn "dal 'mlaen a gobeithio y gwnaiff pethau wella".
Daeth dros 120 o aelodau presennol a chyn-aelodau at ei gilydd i ganu mewn cyngerdd i ddathlu'r 40 yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe.
Sefyllfa y sector gelfyddydol 'wir yn bryder'
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Tim Rhys-Evans, arweinydd y côr, "dwi methu poeni'n fwy na dwi'n gwneud" am y sefyllfa sy'n wynebu'r celfyddydau gan ychwanegu "rydym wedi gweld degawdau o doriadau".
Mr Rhys-Evans oedd sylfaenydd elusen Aloud a arweiniodd at sefydlu sawl cor megis Only Men Aloud ac Only Kids Aloud.
Dywedodd fod yr elusen yn "wynebu heriau ariannol ofandwy, fel nifer o sefydliadau eraill".
"Mae wir wir yn bryder. Dwi jyst yn gorfod dal 'mlaen a gobeithio y gwneith pethau wella".
Er gwaetha'r pryder, dywedodd Mr Rhys-Evans fod arwain côr gyda dros 150 o aelodau wedi rhoi llygedyn o obaith iddo ar gyfer dyfodol y sector.
Dywedodd bod angen i bobl gymryd cerddoriaeth o ddifri' gan ei fod yn "rhan o'n bywydau i gyd".
"Dwi'n meddwl os allwn ni gael y llywodraeth i ddeall fod y celfyddydau yn gymaint mwy na rhywbeth yn y cefndir, a bod ganddo'r gallu i helpu pobl i fyw bywydau gwell".
'Pobl ddim yn deall pwysigrwydd' corau
Mae Caradog Jones, 22, o Ddyffryn Nantlle wedi bod yn rhan o'r côr ers 2019, a dyma oedd ei flwyddyn olaf gyda'r criw.
"Mae'n anodd mesur yr effaith mae profiadau fel hyn yn ei gael ar bobl ifanc, felly dwi'n teimlo bod llawer o bobl ddim yn deall pwysigrwydd sicrhau bod y pethau yma dal i fynd," meddai Caradog Jones.
Ag yntau wedi astudio Cerddoriaeth yn y brifysgol ac wedi bod yn rhan o Only Boys Aloud cyn ymuno â CICC, dywedodd fod profiadau o'r fath "mor bwysig i bobl ifanc".
"Mae sefydliadau celfyddydol fel 'Celfyddydau Cenedlaethol Cymru' yn wynebu mwy a mwy o doriadau i'r pwynt lle mae cyfleoedd fel hyn yn brin iawn".
Mae Caradog o'r farn fod gan "gerddoriaeth gymaint o bŵer i allu newid bywydau ac yn anffodus weithiau rwy'n ofni nad yw'r llywodraeth am sylweddoli hyn tan y bydd hi'n rhy hwyr".
Fe ymunodd cyn-aelodau'r côr i ganu yn Neuadd y Brangwyn i ddathlu'r 40.
Dywedodd Caradog fod y profiad yn "rhywbeth mi wna i i fyth anghofio, ac yn fy llenwi gyda gobaith bod traddodiad cyfoethog o ganu sydd gyda ni yng Nghymru dal i fynd mor gryf ac erioed".
Un arall oedd yn rhan o'r côr oedd Siwan Jones, 18, o Gaerfyrddin.
Dywedodd Siwan ei bod wedi ymuno a'r côr gan fod ganddi "diddordeb mewn canu, cerddoriaeth a pherfformio ac eisiau rhannu’r brwdfrydedd gyda phobl eraill".
Roedd hithau'n cytuno â Caradog bod cyfleoedd cerddorol i bobl ifanc yn "hynod o bwysig".
“Mae’n bwysig bod ieuenctid Cymru yn cael y cyfle i ymhyfrydu yn niwylliant y genedl a chael y profiadau yma i barhau gyda'n traddodiadau a diddordebau cerddorol a chelfyddydol," meddai.
Cefnogaeth ariannol i wneud y côr yn 'hygyrch'
Dywedodd Evan Dewson, Prif weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fod hwn yn "gyfnod anodd i deuluoedd ac i'r sector celfyddydau" a'u bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i wneud y côr yn hygyrch i bawb".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles" a'u bod wedi "gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn".
Er hyn, maen nhw'n dweud eu bod "wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin