Côr Only Boys Aloud 'i ddarfod heb godi £150,000'
- Cyhoeddwyd
Mae Only Boys Aloud yn dweud bod dyfodol y côr ac elusen Aloud yn ansicr yn sgil heriau ariannol.
Yn ôl y côr, mae angen iddyn nhw godi £150,000 os ydyn nhw am oroesi.
Cafodd Only Boys Aloud ei sefydlu ar gyfer Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn 2010, a daeth i amlygrwydd wedi eu llwyddiant ar raglen Britain's Got Talent yn 2012.
Bellach, mae 150 o fechgyn yn aelodau o 11 o gorau ar draws Cymru, gydag ymarferion yn cael eu cynnal yn wythnosol.
Maen nhw wedi lansio ymgyrch ar-lein i godi arian er mwyn ceisio codi'r £150,000.
Mae Caradog Jones yn wreiddiol o Gaernarfon, ac fe ymunodd ag Only Boys Aloud pan sefydlodd y côr gangen yng ngogledd Cymru.
Mae ganddo atgofion melys o'i amser yn y côr.
"Y profiad gorau ges i oedd mynd i Lorient i'r Ŵyl Ban Geltaidd efo'r academi," meddai.
"Hwnna oedd y profiad dwi wastad yn cofio."
Dywed Caradog, sy'n bwriadu cychwyn gradd meistr mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, bod y côr wedi ei ysbrydoli i barhau gyda’i addysg.
“Dwi ddim yn meddwl byswn i wedi [astudio cerdd] heb y profiad dwi wedi cael efo Only Boys Aloud a be' mae hynna wedi galluogi i mi wneud.”
Ond mae Caradog yn credu fod yr effaith ar aelodau yn mynd tu hwnt i gyfleoedd cerddorol, gan groesawu bechgyn o bob cefndir.
Dywedodd: “Dwi’n meddwl, i fi, mae’n bechod achos yr effaith mae’n cael ar bobl eraill - dim pobl sydd wedi mynd ymlaen i astudio cerdd.
“Doedden nhw ddim yna am y canu rili, roedden nhw yna am yr ochr gymdeithasol, bod nhw'n gwybod bo' nhw'n gallu mynd yna - rhywle saff iddyn nhw fynd.
"Nhw oedd y bobl oedd yn cael y mwyaf allan o Only Boys Aloud.
"Bysa lot o'r hogiau yna ddim 'di cael y cyfle yna i gael gwersi cerddorol 'na dim byd fel 'na.
"Dwi'n meddwl fod dod i Only Boys Aloud a chael y cyfleoedd yn... yn gyfle iddyn nhw ddianc am ddwy awr yr wythnos.
"Felly mae'r ffaith bod Only Boys Aloud yn cynnig cyfleoedd anhygoel, am ddim, mor werthfawr i hogiau ifanc."
'Newid fy mywyd'
Mae'r côr yn dweud bod dros 6,500 o fechgyn wedi bod yn aelodau dros y blynyddoedd - gydag actorion a chantorion fel Callum Scott Howells a Tom Hier yn eu plith.
Dywedodd Tom Hier, sydd wedi perfformio mewn sawl cynhyrchiad yn y West End ac sy'n aelod o grŵp Welsh of the West End, nad yw'n "credu fod pobl yn deall mai fel elusen y mae Only Boys Aloud yn gweithredu".
"Nes i ymuno ag Only Boys Aloud o'r dechrau un. Mae o'n gymaint mwy na chôr.
"Mae'n frawdoliaeth oedd yn cynnig cyfeillgarwch, pwrpas a chyfleoedd wnaeth newid fy mywyd."
Ychwanegodd Tom Hier: "Bellach, rydw i'n ddigon ffodus i fod yn perfformio fel bywoliaeth.
"Ond dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny'n wir oni bai am yr hyder a'r sgiliau nes i fagu fel aelod o Only Boys Aloud.
"Er llwyddiant arbennig y côr dros y blynyddoedd, mae angen help arnom ni, ac mae costau cynyddol yn golygu ein bod ni'n wynebu heriau ariannol.
"Os yw'r côr am oroesi, yna mae angen i ni godi £150,000.
"Byddai’r arian yma yn ein galluogi i barhau i gynnal ymarferion fydd yn rhoi cyfle i fechgyn Cymru ganu am genhedlaeth arall."
Gohirio gweithgareddau
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol elusen Aloud, Carys Wynne-Morgan: "Ry'n ni, fel cymaint o elusennau eraill, yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.
"Mae'r hinsawdd economaidd, a'r sefyllfa o ran cyllidebau wedi ein taro'n galed, ac er gwaethaf ymdrechion ein tîm ymroddgar a gwybodus, dy'n ni ddim wedi gallu codi'r arian sydd ei angen arnom ni i gynnal ein gwaith hanfodol ar hyd Cymru eleni.
"O ganlyniad, ry'n ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i ohirio ein gweithgareddau am ddim i bobl ifanc, a haneru maint ein tîm.
"Yn ystod y cyfnod yma ry'n ni'n benderfynol o ailffocysu ac ailstrwythuro Aloud er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mai
- Cyhoeddwyd21 Ebrill