Cyn-AS ac Aelod o'r Senedd i wynebu achos llys am honiadau gamblo

Craig Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Williams wedi ei gyhuddo o rannu gwybodaeth gyfrinachol am gynllunio etholiad Stryd Downing

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gyn-Aelod Seneddol ac aelod presennol o Senedd Cymru wynebu achos llys yn dilyn honiadau o gamblo ar ddyddiad Etholiad Cyffredinol 2024.

Mae Craig Williams, 40, a oedd yn AS Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn ac yn ysgrifennydd preifat seneddol i Rishi Sunak, Prif Weinidog y DU ar y pryd, wedi'i gyhuddo o dwyllo wrth gamblo ym mis Mai 2024.

Mae Mr Williams hefyd wedi'i gyhuddo o rannu gwybodaeth gyfrinachol am gynllunio etholiad Stryd Downing i alluogi tri arall, gan gynnwys yr Aelod o'r Senedd Russell George, i dwyllo ar eu betiau hefyd.

Roedd Mr Williams a Mr Russell ymhlith 15 o ddiffynyddion a ymddangosodd gyda'i gilydd yn Llys Ynadon Westminster ddydd Gwener.

'Ceisio cael arian hawdd'

Dywedodd yr erlynwyr wrth y Prif Ynad, Paul Goldspring, fod y diffynyddion yn "ceisio cael arian hawdd".

Clywodd y llys fod ymchwiliad y Comisiwn Hapchwarae wedi edrych ar "weithwyr gwleidyddol y Blaid Geidwadol, contractwyr, a swyddog heddlu a osododd betiau ar ddyddiad Etholiad Cyffredinol 2024".

"Roedd hynny â gwybodaeth gyfrinachol neu fewnol ynghylch pryd fyddai dyddiad yr etholiad.

"Mae defnyddio'r marchnadoedd betio trwy osod betiau gyda gwybodaeth gyfrinachol neu fewnol yn drosedd."

Clywodd y llys fod y betiau sydd wrth wraidd yr achos yn "gannoedd" o bunnoedd, ac wedi'u cyfyngu gan reolau'r cwmnïau betio.

Clywodd y llys fod Mr Sunak wedi rhoi tystiolaeth ei hun fel rhan o'r ymchwiliad troseddol.

Mae Mr Williams wedi'i gyhuddo o drosglwyddo gwybodaeth i'w ffrindiau Charlotte Lang, Tom James, cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig, a Mr George.

Russell George
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Russell George (uchod) a Tom James y byddan nhw'n pledio'n ddieuog tra nad oedd Craig Williams wedi rhoi unrhyw arwydd o bledio

Mae Jeremy Hunt, cyn-swyddog heddlu, a oedd yn rhan o uned amddiffyn Heddlu'r Met i Mr Sunak, wedi'i gyhuddo o osod bet ar ôl cael gwybod am ddyddiad yr etholiad yn gyfrinachol.

Mae Mr Williams, Mr George a Mr James i gyd wedi'u cyhuddo o dwyllo wrth gamblo.

Mae Mr Williams yn wynebu tri chyhuddiad ychwanegol o alluogi neu gynorthwyo person i dwyllo wrth gamblo.

Dywedodd Russell George a Tom James y byddan nhw'n pledio'n ddieuog tra nad oedd Craig Williams wedi rhoi unrhyw arwydd o bledio.

Anfonodd y Barnwr Goldspring yr achos i Lys y Goron Southwark, ar gyfer gwrandawiad ar 11 Gorffennaf.

Cafodd yr holl ddiffynyddion eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.