Cyhuddo Ceidwadwyr o droseddau gamblo yn ymwneud â'r etholiad

Mae Craig Williams, cyn-AS Ceidwadol, a Russell George AS ymhlith y 15 sydd wedi'u cyhuddo
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru ac aelod Ceidwadol presennol yn Senedd Cymru wedi'u cyhuddo o droseddau betio yn ymwneud â'r etholiad cyffredinol y llynedd.
Mae'r cyn-AS Craig Williams a'r Aelod o'r Senedd Russell George ymysg 15 o bobl sydd wedi cael eu cyhuddo gan y Comisiwn Hapchwarae.
Mae Cymro arall yn eu plith hefyd - Thomas James, 38, o Aberhonddu, sef cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig.
Cafodd ymchwiliad ei lansio y llynedd yn dilyn betiau a roddwyd ar amseriad etholiad cyffredinol 2024.
Gwahardd Russell George
Mae Russell George wedi cael ei wahardd o grŵp y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru o ganlyniad i'r cyhuddiad.
Mewn datganiad dywedodd arweinydd y grŵp, Darren Millar: "Ar ôl cael gwybod bod Russell George AS wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud â gamblo, rwyf wedi penderfynu ei wahardd o Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd.
"Mae'r gwaharddiad yn weithred niwtral tra'n aros am ganlyniad y broses gyfiawnder."
Roedd Mr George wedi cael ei ddewis yr wythnos ddiwethaf i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd newydd Gwynedd Maldwyn yn etholiad y Senedd yn 2026.
Dywedodd Bernard Gentry, cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "siomedig bod yr unigolion hyn wedi cael eu cyhuddo, ond mae angen aros am ganlyniad yr achos llys cyn lleisio barn".

Mae Thomas James - cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig - wedi'i gyhuddo hefyd
Cyn i'r etholiad gael ei alw, roedd Craig Williams yn AS dros Sir Drefaldwyn ac yn gynorthwyydd i'r Prif Weinidog ar y pryd, Rishi Sunak.
Ar 22 Mai, cyhoeddodd Sunak y byddai'r etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.
Cyn y cyhoeddiad hwnnw, y gred yn gyffredinol oedd y byddai'r etholiad yn cael ei gynnal yn yr hydref.
Dywedodd y Comisiwn Hapchwarae fod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar unigolion "sy'n cael eu hamau o ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol - yn benodol gwybodaeth ymlaen llaw am ddyddiad arfaethedig yr etholiad - i gael mantais annheg mewn marchnadoedd betio".
Mae disgwyl i'r 15 sydd wedi'u cyhuddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 13 Mehefin.
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
Mae eraill sydd wedi'u cyhuddo yn cynnwys cyn-ymgeisydd Seneddol Ceidwadol ym Mryste, Laura Saunders, cyn-gyfarwyddwr ymgyrchu'r blaid, Anthony Lee, a'u cyn-brif swyddog data, Nick Mason.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod y blaid yn "credu bod yn rhaid i'r rhai sy'n gweithio ym myd gwleidyddiaeth weithredu gyda gonestrwydd".
"Mae aelodau presennol o staff sydd wedi'u cyhuddo yn cael eu gwahardd o'u gwaith ar unwaith," meddai.
"Digwyddodd y digwyddiadau hyn ym mis Mai y llynedd.
"Mae gan ein plaid bellach arweinyddiaeth newydd ac rydym yn cydweithredu'n llawn â'r Comisiwn Hapchwarae i sicrhau y gall eu hymchwiliad ddod i ben yn gyflym ac yn dryloyw."