Y 'Strat' yn 70: Cerddorion Cymru a'r gitâr eiconig

Ritzy
  • Cyhoeddwyd

Yn 1954 daeth gitâr drydanol newydd sbon danlli ar y farchnad a newidiodd bopeth.

Wedi ei wneud yn boblogaidd dros y blynyddoedd gan bobl fel Buddy Holly, Jimi Hendrix, Jeff Beck, a Nile Rodgers - mae’r Fender Stratocaster yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 eleni.

Dyma olwg ar rai o’r cerddorion o Gymru sydd wedi chwarae’r gitâr eiconig yma, gyda chyfraniadau gan ambell un yn esbonio pam fod y 'Strat' mor boblogaidd.

Tich Gwilym

Ffynhonnell y llun, Wikipedia / Casgliad y Werin

Os oes 'na ffasiwn beth â ‘Duw gitâr’ yng Nghymru, Tich Gwilym yw hwnnw. Fe ddysgodd ei grefft yn chwarae ar hyd a lled tafarndai Caerdydd, cyn ffurfio’r band Kimla Taz. Fe aeth ymlaen i chwarae gyda nifer o artistiaid Cymraeg gan gynnwys Geraint Jarman a Siân James.

Yn 2005, bu farw Tich mewn tân yn ardal Treganna, Caerdydd, ag yntau ddim ond yn 54 mlwydd oed.

Ritzy Bryan (Joy Formidable)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ritzy, prif leisydd The Joy Formidable, yn chwarae gitârs Stratocaster ers yn 15 mlwydd oed.

Ritzy: “Dwi heb ffeindio gitâr sy’ cystal â’r Strat. Mae’r gwddf a’r ffordd mae’n teimlo i’r breichiau a’r bysedd... mae’n teimlo fel estyniad o dy hun. Mae’n gitâr ffantastig. A’r sŵn wrth gwrs.

“Mae o’n andros o versatile. Dwi'n mwynhau gallu chwarae rhywbeth sparkly a melodic un munud a newid i rhywbeth bâs a brawychus y munud nesa.”

Len 'Lendrix' Jones

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae Len Jones, neu ‘Lendrix’ fel mae’n cael ei adnabod ar y sîn, yn adnabyddus am ei ddawn ar y gitâr. Gyda’r Strat yn hongian dros ei ysgwydd, mae wedi chwarae gyda nifer o fandiau dros y blynyddoedd gan gynnwys Rhiannon Tomos a’r band, Brân a Profiad.

Len: “Nes i glywed Jimi Hendrix am y tro cyntaf y diwrnod y buodd o farw ar 18 Medi 1970 - 'nath o chwythu fy meddwl i a fy ysbrydoli i ddysgu'r gitâr.

“Yn bersonol, mae ganddo'r sain nodweddiadol 'na - sain y Strat - sydd yn gweddu steil unigryw pwy bynnag sy'n ei chwarae.”

Elis Derby

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Elis: “Y Strat sydd gen i rŵan ydi’r unig gitar dwi’n gwybod o sicrwydd fydda i byth yn ei werthu. Honna dwi 'di bod yn chwarae yn bron i bob gig, ac ar bob recordiad oni bai am rai mwy diweddar.

"Mi wnes i ei brynu yn 2016 pan o'n i’n y coleg yn astudio cerddoriaeth.

"Fel rhan o’r cwrs o’n i’n gorfod ymarfer lot ar fy offeryn ac astudio’r greats. Clapton, Jimi Hendrix, David Gilmour, ayyb.

"Fender Strat oedden nhw i gyd yn chwarae, felly mi wnaeth hynny siŵr o fod ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i’w brynu.

“Os gofynnwch chi i rywun dynnu llun o gitâr drydan, swn i’n meddwl mai’r gitâr yma fysa’n dod i feddwl pawb gynta. Tydi hi heb newid ei design ers 70 mlynedd - if it ain’t broke…”

Griff Lynch (Yr Ods)

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae Stratocasters gwyn yn hynod boblogaidd ers i Jimi Hendrix chwarae un yn ei berfformiad enwog yng ngŵyl Woodstock yn 1969, ond mae’n debyg mai artist fwy diweddar na hynny a ddylanwadodd ar Griff Lynch, gitarydd yr Ods.

Griff: “Pan 'nes i ddechra perfformio a chreu cerddoriaeth, roedd 'na lot o gerddorion dylanwadol newydd yn defnyddio’r Strat.

“2007, cyfnod cynnar Arctic Monkeys a The Strokes, a toman o fandiau sydd bellach wedi’u labelu fel indie landfill. Roedda nhw i gyd yn gwneud i’r Strat edrych yn cool yn fy meddwl i, a mi oedd cael sŵn uchel screechy, oedd mor boblogaidd ar y pryd, yn dod yn hawdd i’r gitar.”

Hana Lili

Ffynhonnell y llun, Hana Lili

Un arall sy’n chwarae Strat gwyn yw Hana Lili. Mae hi’n artist sydd wedi mwynhau cryn dipyn o lwyddiant yn ddiweddar.

Yn 2021 fe gafodd ei cherddoriaeth ei ddefnyddio ar y gyfres deledu Love Island, ac yn 2023 fe gefnogodd hi'r band Coldplay yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog)

Ffynhonnell y llun, Dafydd Nant

Iwan: “Y siâp ydi’r prif beth i mi. Os gofynni di i rywun dynnu llun o gitâr drydan, mae 'na siawns da iawn mai llun o Strat wnawn nhw! A does na’m tebyg i sŵn y neck pick-up 'chwaith.

“O ran chwaraewyr dylanwadol - Mark Knopfler wrth gwrs.”

Carwyn Ellis

Yn ogystal â’i brosiectau Colorama a Rio18 mae Carwyn hefyd yn adnabyddus fel cerddor sesiwn sy’ wedi chwarae gydag Edwyn Collins, Oasis ac yn fwy diweddar, The Pretenders.

Y Trwynau Coch

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Band pync/pop-pŵer Cymraeg o Gwm Tawe oedd Y Trwynau Coch. Beth welwch chi yn y llun yma? Nid un ond dau Fender Stratocaster!

Gyda llawer mwy o gerddorion o Gymru heb eu cynnwys ar y rhestr yma, does dim arwydd fod poblogrwydd y gitâr yn pylu, 70 o flynyddoedd ers i’r cyntaf gyrraedd y siopau.

Felly pen-blwydd hapus a hir oes i’r Strat a’i gyfraniad diamheuol i gerddoriaeth Gymraeg.

Pynciau cysylltiedig