'Ro'n i'n arfer meddwl bod miwsig Cymraeg bach yn cringe'
- Cyhoeddwyd
Sut wnaeth band oedd byth yn gwrando ar fiwsig Cymraeg wrth dyfu fyny yn y Cymoedd ddatblygu'n un o'r bandiau mwyaf cyffrous ar y sin ar hyn o bryd? Ac a wnaiff ymweliad yr Eisteddfod â'u milltir sgwâr eleni newid agweddau yno tuag at gerddoriaeth Gymraeg?
Fel rhan o Wythnos Cymreictod Cymru Fyw, Bryn Jones fu'n holi Katie Hall a Zac Mather o'r band Chroma.
I nifer o Gymry, mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, mynd i gigs a Maes B yn rhan bwysig o dyfu fyny ac yn helpu siapio eu hunaniaeth. Ac mae unrhyw fand Cymraeg ifanc efo un llygad ar sesiwn Radio Cymru a chael slot ar lwyfan Tafwyl.
Ond roedd rhain yn hollol amherthnasol i un o'r grwpiau mwyaf llwyddiannus ar y sin ar hyn o bryd.
Mae prif leisydd Chroma Katie Hall a'r drymiwr Zac Mather wedi eu magu ar aelwydydd di-Gymraeg yn ardal Pontypridd, a'u treftadaeth gerddorol nhw oedd roc emo Saesneg o'r Cymoedd. Doedd Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod ddim ar eu radar.
Eglurodd Katie: "Ma' miwsig fi'n meddwl yn cael ei ysgogi lot gan y stwff ma' rieni chdi'n chwarae a nes i ddim tyfu lan gyda cherddoriaeth Cymraeg o gwbl.
"Mae Dad fi yn massive Bruce Sprintgseen fan sy'n beth eitha' cyfarwydd yn y Cymoedd, oherwydd bod cymaint o bobl dosbarth gweithiol... a hefyd roedd yn licio Led Zep, Fleetwood Mac.
"Roedd Dad yn gwrando ar ddau fand o Gymru sef Manic Street Preachers a Stereophonics a fi'n deall hynny - ma' caneuon y Sterophonics ynglŷn ag ardal fi ac adra."
Bandiau 'emo' y Cymoedd
Sefyllfa debyg oedd hi yng nghartref Zac, gyda'i dad yn gwrando ar Billy Joel a Queen, a doedd grwpiau Cymraeg llwyddiannus y cyfnod ddim yn tycio.
"Yr unig gof sda fi o fod yn blentyn a sôn am Super Furries yw clywed Dad yn deud 'I saw them at Glasbonbury once and they were off their heads - it wasn't for me...' Dyna'r unig beth."
Fel cymaint o rai eraill, wrth iddyn nhw fynd drwy gyfnod eu harddegau roedd bod yn rhan o 'sin' ac uniaethu efo pobl ifanc eraill oedd yn hoffi'r run gerddoriaeth yn bwysig. Efallai mai Tom Jones ydi artist enwocaf Pontypridd, ond mae gan y dref a gweddill y Cymoedd draddodiad cryf o fandiau roc.
Mae Katie a Zac yn crafu pen wrth geisio enwi bandiau Cymraeg o Bontypridd, ac er gwaetha gigs Tafarn y Bont, doedden nhw ddim yn ymwybodol o unrhyw 'sin Gymraeg' pan oedden nhw'n tyfu fyny.
Meddai Katie: "Roedd massive sense of pride and identity i'r emo scene a doedd dim byd fel yna yn bodoli yn y Gymraeg i fi wybod amdano.
"Felly if Paramore (grŵp roc o America) is playing down the road a ma' pobl ti'n nabod sy'n rhan o'r sin yn mynd, ac ella chi'n gweld The Blackout (band o Ferthyr) a stwff fel yna - are Eden gonna have a look in?I don't think so. Sorry huns - love you, but you know what I mean?"
Darganfod cerddoriaeth Gymraeg
Yr ysgol oedd eu cyflwyniad i gerddoriaeth Gymraeg, ond ers pryd mae plant yn eu harddegau yn meddwl bod eu hathrawon yn cŵl...?
"Yn dod o deulu di-Gymraeg fi'n cofio mynd i'r ysgol a gweld yr iaith Gymraeg fel rhywbeth 'da chi'n dysgu trwyddo," eglurodd Zac. "Falle bod côr neu ryw fath o glocsio, ac all power i bobl sydd isho neud rheiny, ond o'n i byth yn uniaethu efo hynny."
Mae Katie yn cytuno: "O'n i jest yn completely put off oherwydd roedd y miwsig o'n ni wedi cael ein dangos yn yr ysgol oedd yn kind of miwsig cyfoes Cymraeg, ac o'n i'n meddwl bod e bach yn cringe."
Ond fe newidiodd pethau i'r ddau wrth i ddrws gael ei agor i fyd cerddorol oedd yn ddiarth iddyn nhw.
Dewis ar y funud olaf i fynd i astudio Cymraeg yng Nghaerdydd oedd yr allwedd i Katie, a wnaeth hynny newid trywydd ei bywyd. Cafodd ei chyflwyno i fandiau newydd Cymraeg gan ei ffrindiau coleg, wnaeth arwain at ddilyn bandiau a gweithio yn Clwb Ifor Bach.
Pan daeth Chroma at ei gilydd, fe wnaeth y triawd sgwennu caneuon Saesneg a Chymraeg yn rhannol er mwyn bod yn wahanol i fandiau o'r Cymoedd - a gan eu bod nhw'n gallu.
Meddai Zac: "Unwaith wnaethon ni ddechrau sgwennu caneuon fel Chroma, o'n ni gyd fel 'o wel mae pawb yn siarad Cymraeg, pam lai? Pam 'da ni ddim yn sgwennu caneuon Cymraeg hefyd?'. Dyna pryd gesh i fel introduction i'r Steddfod yn 2016 a Brwydr y Bandiau."
"Fi'n cofio'r dröedigaeth," ychwanegodd Katie. "Fi'n cofio dweud, 'reit bois ni'n gallu ennill grand, mae geno ni caneuon Cymraeg nawn ni jest give it a go'. Ac wedyn oeddet ti fel 'yeah, ok, fine'. Daethoch chi i'r Steddfod ac roedda chi fel 'ooo, ma' hyn yn class!'"
"Oedd e bach o eye opening experiencing," meddai Zac. "Oooo ma' actually y byd yma lle mae pobl cŵl yn sgwennu caneuon Cymraeg."
Chroma enillodd teitl Brwydr y Bandiau y flwyddyn honno - a'r £1000 - ac maen nhw wedi mynd o nerth i nerth, yn canu caneuon Cymraeg a Saesneg.
Maen nhw'n barod wedi cael sylw ar Radio 1 a 6 Music - a Radio Cymru a phrosiect Gorwelion y BBC, ac eleni maen nhw'n gweithio ar eu hail albwm, wedi bod yn gigio yn gyson ar draws Prydain a thu hwnt, ac yn edrych ymlaen at gefnogi'r Foo Fighters yn Emirates Old Trafford Manceinion fis Mehefin.
Yr Eisteddfod ym Mhontypridd
I ffwrdd o'r llwyfan a'r stiwdio recordio, mae Katie yn gweithio fel swyddog cymunedol i'r Eisteddfod Genedlaethol a'i gobaith ydi bod ymweliad y Brifwyl â Rhondda Cynon Taf eleni am gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg am y tro cyntaf i rai o drigolion yr ardal.
Mae'r canwr a Zac yn dweud bod nifer fawr o'u ffrindiau ysgol o aelwydydd di-Gymraeg wedi colli diddordeb yn yr iaith ar ôl profiad negyddol yn yr ysgol.
Gobaith Zac ydi bod Eisteddfod Genedlaethol 2024 am gael yr un effaith arnyn nhw a gafodd yr ŵyl arno fo yn 2016.
Meddai: "Ma' lot o ffrindiau fi o'r ysgol, 'di nhw ddim yn siarad Cymraeg rhagor a fi wastad yn dweud 'fi'n gwybod be' ti'n licio gwrando ar... dyma band Cymraeg o'r run genre... and it's actually good'.
"Dyna'r peth pwysig - maen nhw gystal â be' bydda nhw'n gwrando ar a 'dio ddim jest ma'r production bach yn crap ond ma'r caneuon yn dda. Galli di wrando ar y caneuon yma drws nesa i unrhyw gân arall yn playlist chi a you wouldn't bat an eyelid.
"A ma' ffrindia' fi wastad fel 'oh my god, o'n i ddim yn gwbod bod cerddoriaeth Cymraeg yn gallu fod gystal'. A fi fel 'ie, mae stwff rili da yna - chi jest angen dod mas o'r syniad bod popeth yn eitha' traddodiadol'.
"Dwi'n credu bydd hynny yn digwydd yn y 'Steddfod blwyddyn yma.
"Fi rili yn gobeithio falle bydd e'n troi cwpwl o bobl i feddwl yn wahanol am yr iaith Gymraeg a be' ma' bod yn berson Cymraeg yn y Cymoedd yn gallu bod fel."