Cwmni rhoddion Gething yn gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi dod i'r amlwg fod cwmni a roddodd gyfraniad sylweddol at ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru yn destun ymchwiliad troseddol pan roddwyd yr arian.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru dderbyn £200,000 ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni sy'n cael ei reoli gan y miliwnydd, y dyn busnes David Neal.
Mae ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates yn datgelu bod un o gwmnïau Mr Neal yn wynebu ymchwiliad troseddol pan dderbyniodd Mr Gething yr arian.
Gall BBC Cymru hefyd ddatgelu bod ffigwr blaenllaw o fewn Llafur Cymru wedi cynnig benthyg arian i Mr Gething fel y gallai roi'r rhodd ddadleuol yn ôl, ond ei fod wedi gwrthod y cynnig.
Mae llefarydd ar ran Llafur Cymru wedi dweud bod Mr Gething wedi "cyfeirio at y mater yn y gorffennol ac mae ar y record gyhoeddus".
Mae Mr Gething wedi mynnu nad yw wedi gwneud unrhyw beth o’i le, a heb dorri unrhyw reolau.
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
Mewn cyfweliad gyda'r BBC fore Llun, dywedodd Mr Gething nad oedd yn ymwybodol o'r ymchwiliad troseddol cyn gweld stori BBC Cymru.
"Pam ar y ddaear fyswn i’n gwybod am ymchwiliad oedd ar y pryd?", meddai.
"Dwi wedi cydymffurfio gyda phob rheol drwy gydol y broses.
"Does ddim tystiolaeth o gwbl fy mod wedi torri unrhyw reolau yn y cyd-destun yma.
"Rydym wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy oedd ei angen yn ystod y gystadleuaeth sawl mis yn ôl, ac rydym nawr yn symud ymlaen gyda’r dyfodol."
Mae’r ffrae yng Nghymru yn debygol o dynnu sylw o’r ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol i Syr Keir Starmer.
Mae'r arweinydd Llafur wedi cefnogi Mr Gething yn gyhoeddus.
Beth yw'r ymchwiliad troseddol?
Mae’r ymchwiliad troseddol yn canolbwyntio ar un o gwmnïau David Neal, Resources Management Limited (RML), sy’n rhedeg safle tirlenwi yn Sir Benfro.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynnal yr ymchwiliad.
Ers mis Hydref 2023 mae pobl sy’n byw ger safle Withyhedge wedi dweud ei fod yn arogli fel “bom drewdod ar steroids”.
Dywed RML eu bod am "barhau i gyd-weithio ac unrhyw ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru".
Ond nid dyma’r tro cyntaf i gwmni rheoli gwastraff sy’n cael ei reoli gan Mr Neal wynebu ymchwiliad am droseddau amgylcheddol.
Fe’i cafwyd yn euog ddwywaith am gyflawni troseddau oedd yn gysylltiedig â dau gwmni arall yn 2013 a 2017, ac fe blediodd un o’r cwmnïau yn euog ym mis Mawrth eleni i droseddau eraill.
Symudodd Jenny Clube yn ôl adref i Crundale gyda’i phartner a’u dau o blant am “well ansawdd bywyd”, ond mae safle Withyhedge gerllaw wedi amharu ar hynny.
“Es i allan o’r tŷ er mwyn mynd i’r gwaith ac fe gefais fy nharo gyda drewdod ofnadwy wyau drwg, a bu’n rhaid i mi ddal fy ngwynt nes o'n i mewn yn y car,” meddai.
"Yn y car fe ddechreuodd fy ngwefusau tinglo ac fe ges i gur yn fy mhen yn fuan wedyn.”
'Gwaeth na chewyn y mab'
Dywedodd bod y teulu wedi rhoi’r gorau i wneud pethau yn yr ardd oherwydd yr arogl.
“Rydyn ni wedi bod yn cau’r ffenestri gan nad ydyn ni eisiau deffro gyda’r tŷ yn drewi o wyau drwg, sy’n waeth na chewyn y mab," meddai.
Mae RML yn dweud nad ydyn nhw bellach yn derbyn “nifer o ffrydiau gwastraff” y maen nhw’n dweud a gyfrannodd at yr arogl, a'u bod yn bwriadu gwneud gwaith i sicrhau nad yw’n digwydd eto.
Mae gweithredwyr safle Withyhedge yn dweud mai eu blaenoriaeth yw cael gwared â'r arogl sydd yn dod o'r safle.
Mae Colin Barnett, cyn-weithiwr cyngor sydd wedi ymddeol, yn byw ger y safle tirlenwi.
Mae wedi trefnu nifer o brotestiadau am yr arogl ac mae wedi bod yn cwyno am y sefyllfa i Gyfoeth Naturiol Cymru ers saith mis.
"Fe wnaethon ni ddechrau ymgyrch Facebook gan fod y dudalen leol ar gyfer pentref Spittal yn cael ei lethu gyda chwestiynau am y tip," meddai.
"Pan wnes i ryddhau fideo drôn o’r lle, fe ddechreuon nhw ymchwilio yn fwy, a dim ond ers bod ‘na ragor o bwysau ganddon ni maen nhw wedi gorfod mynd yn ôl yno.”
Mae dros 2,000 o bobl yn aelodau o grŵp 'Stop the Stink' ac mae Mr Barnett yn dweud ei fod bellach yn “ymgyrch enfawr".
"Mae’n debyg eu bod wedi synnu bod yna gymaint o wrthwynebiad ffyrnig o ardal fach wledig, ond y broblem yw, maen nhw wedi cael effaith ar gymaint o bentrefi."
Ychwanegodd fod Mr Neal wedi sefyll a siarad mewn cyfarfod cyhoeddus a dweud ei fod eisiau bod yn gymydog da.
"Wel, os taw hyn ydi bod yn gymydog da, anghofia fo. Jest cer o 'ma," meddai Mr Barnett.
Pwy oedd yn ymwybodol o'r ymchwiliad?
Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac mae wedi bod yn briffio gweinidogion am y safle tirlenwi sydd dan reolaeth Mr Neal ers cyn i Mr Gething gael ei benodi’n brif weinidog ym mis Mawrth.
Cafodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan a Julie James, y gweinidog dros newid hinsawdd ar y pryd, gyfarfodydd gyda CNC ynglŷn â Withyhedge ym mis Chwefror.
Ym mis Mawrth, fe ddaeth i’r amlwg fod Mr Gething wedi siarad â CNC ar ran Mr Neal yn 2016, gan ofyn iddyn nhw lacio cyfyngiadau ar un arall o’i fusnesau, Atlantic Recycling Ltd.
Daeth ail gyfraniad ariannol Mr Neal i Mr Gething yn Ionawr 2024, ddiwrnod cyn i un arall o gwmnïau Mr Neal amlinellu cynlluniau am fferm solar ar Wastadeddau Gwent, mewn ardal ble mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Neal: “Mae pob rhodd wedi dod o gyfrif ar wahân i’r rhai sy’n cael eu defnyddio er mwyn datblygu’n busnes; dydyn ni erioed wedi gofyn nac wedi disgwyl am unrhyw beth yn gyfnewid.”
Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford nad oedd Vaughan Gething wedi torri'r cod gweinidogol.
Ond mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud bod y sefyllfa yn cyfleu'r awgrym bod y cwmni wedi prynu ffafrau gan y prif weinidog.
"Byddai rhywun yn meddwl bod rhywun sy'n talu cymaint â hynny o arian yn gwneud am eu bod nhw eisiau rhywbeth, a hynny sy’n codi’r cwestiynau yma," meddai.
"Pam fyddai prif weinidog mor hapus i adael ei hun yn agored i gyhuddiad mor amlwg fod yna rhyw fath o berthynas amhriodol?
"Mae’r cyfan yn dangos diffyg crebwyll llwyr," meddai.
Cynnig benthyg arian
Mae rhai aelodau Llafur hefyd wedi cwestiynu barn y prif weinidog.
Mae'r BBC ar ddeall bod ffigwr amlwg o fewn Llafur Cymru wedi cynnig benthyg arian i Mr Gething er mwyn iddo allu talu'r cyfraniad dadleuol yn ôl, ond cafodd y cynnig hwn ei wrthod.
Ond mae ffigyrau amlwg eraill o fewn y blaid wedi cefnogi Mr Gething yn gyhoeddus, gan gynnwys Keir Starmer a llefarydd Llafur ar Gymru, Jo Stevens.
Dywedodd Ms Stevens: "Wnaeth Vaughan ddim torri unrhyw reolau yn yr ymgyrch arweinyddiaeth ac rydyn ni'n edrych ymlaen at fwrw ati gyda'r etholiad cyffredinol.
"Mae 'na ymateb positif wedi bod amdano ar stepen y drws."
- Cyhoeddwyd29 Mai
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd30 Mai
Bydd Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth yn Senedd Cymru ddydd Mercher.
Pe bai’n colli’r bleidlais, ni fyddai'n orfodol iddo ymddiswyddo, ond byddai’r canlyniad yn ei roi mewn sefyllfa anodd iawn.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, a ddywedodd y byddai’r drafodaeth yn rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud am “grebwyll, trolywder a gonestrwydd” Mr Gething.