Disgyblion yn gwybod mwy am y Natsïaid na hanes Cymru - darlithydd

Mae 60 mlynedd ers i gymuned Capel Celyn gael ei boddi i greu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion yng Nghymru'n dysgu mwy am y Natsïaid yn yr Almaen nag am "effaith ddofn" hanes lleol Cymru, meddai darlithydd.
Mae 60 mlynedd ers i gymuned wledig Capel Celyn gael ei boddi i greu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl.
Mae Uwch-ddarlithydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Dr Huw Griffiths, yn credu bod y TGAU newydd wedi "colli cyfle", gan fod "diffyg ffocws ar hanes Cymru".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hanes Cymru wedi bod yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru ers 2022 a bod hynny'n cynnwys hanes lleol.
Ychwanegodd y llywodraeth fod Cymwysterau Cymru wedi trafod yn helaeth gydag athrawon, prifysgolion a cholegau i ddatblygu cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru.
"Mae disgyblion yn dysgu sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant wedi cyfrannu at greu'r wlad falch ac unigryw sy'n bodoli heddiw."

Y ffarmwr a'r cynghorydd lleol David Roberts (dde) yn esbonio graddfa'r cynlluniau am gronfa ddŵr i'w deulu
Wrth gyfeirio at Gapel Celyn dywedodd Dr Griffiths ei fod yn "gyfnod nodedig yn ein hanes, a gafodd effaith ddofn arnom ni," ond mae hefyd yn ei disgrifio fel "un stori yn unig" yn nhreftadaeth Cymru.
Er gwaethaf gwrthwynebiad llethol gan ASau Cymru, protestiadau torfol, ac ymgais i fomio safle'r argae arfaethedig, fe gafodd mwy na 70 o bobl eu gorfodi i adael eu cartrefi yng Nghapel Celyn a chael eu hailgartrefu yn erbyn eu hewyllys.
Fe ddiflannodd ysgol, capel, swyddfa bost a 12 o ffermydd o dan y dŵr i wneud lle i'r gronfa newydd.
Dywedodd Dr Griffiths bod addysg uwchradd yng Nghymru yn aml yn cael ei lywio gan arholiadau TGAU a Safon Uwch, felly mae hanes "pwy ydyn ni fel pobl yn cael ei golli".
"Mae'n ymwneud â chael dealltwriaeth ddyfnach o bwy ydyn ni, gan ddatblygu syniad o berthyn," ychwanegodd.

Mae rhai haneswyr yn dweud bod y digwyddiad, o ystyried y gwrthwynebiad cryf, wedi tynnu sylw at "ddiffyg grym" Cymru
Fel cadeirydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, sy'n annog ysgolion i addysgu hanes Cymru, dywedodd Dr Griffiths fod y TGAU newydd wedi "colli cyfle", gan fod diffyg ffocws ar hanes Cymru.
Dywedodd fod mwyafrif helaeth y gwaith o addysgu am Dryweryn mewn ysgolion uwchradd yn cael ei wneud gan adrannau Cymraeg.
Mae angen i ysgolion ailffocysu ar hanes Cymru, meddai.
"Mae ein plant yn dal i adael yr ysgol yn gwybod mwy am y Natsïaid yn yr Almaen nag am hanes Cymru," ychwanegodd.

Protestwyr yn cario posteri mewn gorymdaith wrth i'r gronfa ddŵr gael ei hagor ar 21 Hydref 1965
Fe gafodd preswylwyr Capel Celyn wybod yn haf 1955 bod eu cartrefi'n cael eu hystyried fel safle ar gyfer cronfa ddŵr newydd i ddarparu dŵr i Lerpwl.
Bu degawd o brotestiadau ac ymgyrchoedd i ddilyn mewn ymgais i achub eu cartrefi, ond roedd eu hymdrechion yn ofer.
Roedd Lerpwl yn barod yn cael dŵr o Gymru cyn boddi Tryweryn, ond roedd cyngor Lerpwl yn dadlau nad oedd yn cael digon.
Fe ddechreuodd pobl adael eu cartrefi yn 1963, ac agorwyd yr argae yn swyddogol ar 21 Hydref 1965.
Mae'n cael ei ystyried fel cyfnod allweddol yn hanes Cymru, a luniodd y dirwedd wleidyddol a diwylliannol, gydag ymgyrchwyr yn dweud fod y penderfyniad yn "crystaleiddio diffyg grym Cymru".

Mae nifer yn y gorffennol wedi dweud bod gan y murlun Cofiwch Dryweryn bwysigrwydd cenedlaethol
Ar wal ger Llanrhystud yng Ngheredigion fe gafodd y geiriau 'Cofiwch Dryweryn' eu paentio gan yr ymgyrchydd a'r awdur, Meic Stephens.
Mae bellach yn cael ei ystyried fel slogan eiconig sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan genedlaetholwyr hyd heddiw.

Cafodd y slogan ei phaentio hefyd ar lanfa yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro yn 2021
Mae'r slogan wedi cael ei fandaleiddio sawl gwaith gyda graffiti, er i wirfoddolwyr ddod ynghyd i'w adfer.
40 mlynedd ar ôl agor y gronfa ddŵr, fe ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl am "unrhyw ansensitifrwydd a ddangoswyd" gan y cyngor blaenorol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio arddangosfa gelf i nodi 60 mlynedd ers y digwyddiad.
Bydd yn arddangos y protestiadau angerddol ac effaith barhaol y llifogydd ar hanes Cymru.
Mae'r arddangosfa, Tryweryn 60, ar agor tan 14 Mawrth, ac mae'r llyfrgell yn gwahodd ymwelwyr i "fyfyrio ar yr hyn y mae'n ei olygu i golli lle arbennig", a pham bod colledion o'r fath yn parhau i atseinio heddiw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.