'Methu'n glir a gwybod' sut i gynyddu cystadleuwyr Eisteddfodau lleol

Victor Hughes yn gwisgo crys glas tywyll a siaced frown.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Victor Hughes o Fodffordd, Ynys Môn, mae nifer y cystadleuwyr yn "brin" mewn eisteddfodau lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder bod nifer y cystadleuwyr ifanc mewn eisteddfodau lleol yn gostwng gyda chymunedau "methu'n glir a gwybod" sut i gynyddu niferoedd.

Dywedodd Victor Hughes, un a dderbyniodd anrhydedd am ei waith yn gwirfoddoli gydag Eisteddfod Môn, bod y sefyllfa yn achos pryder i sawl cymuned.

Yn ôl cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru mae cyllid yn brin i gynnal y fath gystadlaethau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r gymdeithas, eu bod nhw wedi darparu cynnydd o 5% yn y grant yn 2025/26 ond yn "cydnabod yr heriau parhaus".

Megan Jones Roberts yn arwain digwyddiad yn diolch i wirfoddolwyr eisteddfodau lleol
Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Megan Jones Roberts, yn arwain digwyddiad i gydnabod y rhai sy'n cyfrannu i'w heisteddfodau lleol

Roedd digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth i gydnabod gwaith unigolion ar draws Cymru sydd wedi cyfrannu i'w heisteddfodau lleol dros nifer o flynyddoedd.

Ers 1967, mae Victor Hughes wedi bod yn gwirfoddoli gydag Eisteddfod Môn, ac mae'n dweud ei bod hi'n "amser meddwl am ymddeol" bellach.

Ond dywedodd bod y gymuned yn wynebu cyfnod "lle ma' cystadleuwyr yn brin".

"'Da ni 'di ffeindio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf dydyn nhw ddim mor niferus ag oedden nhw ac mae hynny yn bryder i dd'eud y gwir," meddai wrth Cymru Fyw.

"Gobeithio mai cyfnod byr fydd hyn - 'da ni methu yn glir a gwybod sut i ddod drosto fo.

"Wrth gwrs ma' ysgolion yn bwysig – ma' nhw a'r athrawon yn bwysig i annog y cystadlu. Nhw sy'n ffidio yr eisteddfodau yn y pen draw."

'Meithrin talent yn ifanc'

Dywedodd Megan Jones Roberts, cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, bod diffyg arian yn broblem.

Er iddi gydnabod bod sawl eisteddfod yn "dod dros y broblem 'ny mewn rhyw ffordd neu'i gilydd", mae "isie mwy o gyllid", meddai.

"Heb eisteddfodau lleol byddai dim cenedlaethol.

"Ma' rhan fwyaf o bobl yn meithrin eu talent yn gynnar iawn yn eu bywyd yn yr eisteddfod leol."

Megan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan Jones Roberts yn galw am fwy o gyllid i gefnogi eisteddfodau bach

Er yr heriau, aeth ymlaen i gydnabod ymdrech y cymunedau yn "tynnu at ei gilydd" i gynnal y cystadlaethau.

"Ma' nhw'n bwysig iawn oherwydd mewn ambell i bentre' 'na'r unig eisteddfod neu ddigwyddiad sy'n cael ei gynnal yn y neuadd neu yn y capel.

"Ma' rhyw 120 o steddfodau trwy Gymru a dwi mor falch o 'weud bod rhai newydd yn cychwyn fel ym Mhontypridd ac un yn Y Felinheli."

'Cynnal diwylliant'

Yn Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn yn Sir y Fflint, mae Sara, 19, wedi cymryd rôl y "prif swyddog y cyfryngau cymdeithasol", meddai.

"Fi sy'n 'neud yr Instagram nawr," esboniodd.

"O'n i'n arfer canu, adrodd a chystadlu gyda'r gitâr pan o'n i'n ifanc ond dwi ddim yn cystadlu cymaint nawr ar ôl symud i'r brifysgol.

"Mae'n hollbwysig i bobl ifanc yn yr ardal i gael hyder."

Dywedodd hefyd bod y diwrnod blynyddol yn tynnu pobl sydd ddim yn rhugl eu hiaith i gymryd rhan.

Mae Helen yn dal ei thystysgrif anrhydedd a'i merch Sara gyda'i braich o'i chwmpas.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Helen Roberts, a'i merch Sara, gynabyddiaeth am eu gwaith gydag Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn

Fe dderbyniodd ei mam, Helen Roberts, anrhydedd ar Faes yr Eisteddfod am ei gwaith hithau dros y degawd ddiwethaf.

Dywedodd Helen fod yr unig eisteddfod leol yn Sir y Fflint yn "cynnal y diwylliant Cymraeg i sir y ffin".

"Ni mor agos i Loegr ac mae o yn dod â Cymry Cymraeg at ei gilydd unwaith y flwyddyn," meddai.

"Mae o'n magu perthynas bwysig dwi'n meddwl o fewn y gymuned.

"Mae nifer o bobl wedi mynd ymlaen i gael swydd gyda chelf neu gerddoriaeth ac wedyn ma' nhw'n dod yn ôl ac yn cyfrannu i'r steddfod.

"Ma' pobl yn gwerthfawrogi'r datblygiad mae'n rhoi iddyn nhw... ac mewn ardal fel Treuddyn lle mae nifer o gystadleuwyr yn dysgu Cymraeg mae'n hynod o bwysig bod nhw'n cael y platfform yna i gystadlu."

Ychwanegodd ei bod hi'n "mawr obeithio" fydd dyfodol llewyrchus i eisteddfodau lleol.

Dywedodd Llywdoraeth Cymru eu bod nhw wedi cynyddu'r grant i'r gymdeithas 5% ar gyfer y flwyddyn.

Ond maen nhw hefyd yn "cydnabod yr heriau parhaus sy'n wynebu sefydliadau gwirfoddol".

"Rydym yn gwerthfawrogi'r gwaith a gynhelir gan bwyllgorau a gwirfoddolwyr bob blwyddyn i barhau i wneud yr Eisteddfod yn llwyddiant lle mae pobl yn dod ynghyd i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru," meddai llefarydd.