Rhoi cardiau debyd i brynu bwyd di-glwten yn lle presgripsiwn

Annalise Jones, mewn top streipiog, gyda cornflakes a pasta o'i blaen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annalise yn gweld mynd i'r feddygfa i gasglu bwyd fel profiad "rhyfedd"

  • Cyhoeddwyd

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i roi cardiau debyd sydd wedi eu llwytho ag arian i bobl sy'n gorfod bwyta bwyd heb glwten, i fynd i'r afael â chostau bwyd uchel.

O fis Hydref, bydd gan bobl sy'n byw â chlefyd seliag ddewis rhwng defnyddio'r garden i ddewis pa fwydydd i'w prynu, neu i barhau i ddefnyddio'r system bresgripsiwn.

Yn ôl adroddiad gan Coeliac UK mae pobl sydd angen bwyta bwydydd di-glwten yn talu 35% yn fwy am eu siopa bwyd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru eisiau "dad-feddyginiaethu'r cyflenwad o fwydydd di-glwten" a darparu hyblygrwydd.

Mae Annalise Jones, 26 o Glydach, yn byw â chlefyd seliag, clefyd sy'n effeithio un o bob 100 o bobl yn y DU.

Dydy'r rheiny sy'n byw â'r clefyd ddim yn gallu bwyta bwydydd gyda glwten, gan fod eu system imiwnedd yn ymosod ar eu meinweoedd eu hunain, ac nid yw eu cyrff yn gallu amsugno maetholion yn iawn.

Mae'n gallu golygu symptomau fel chwyddo, chwydu a dolur rhydd.

Cafodd Annalise ei diagnosis dair blynedd yn ôl, a hynny ar ôl gorfod aros dwy flynedd am brofion: "O'n i'n teimlo'n flinedig iawn, a'n teimlo'n faint drwy'r amser."

Graffeg yn dangos prisau bwyd.

Pris bara 
Torth- 63c 
Torth ddi-glwten- £2.26
 
Pris pasta 
Pasta- 56c (am 500g)
Pasta di-glwten- £1.22 (am 500g)
 
Fynhonnell: Pris cyfartalog yn Tesco, Asda, Sainsburys a Morrisons ar 22ain o Orffennaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl sy'n byw â chlefyd Seliag yn talu 35% yn fwy am eu siopa bwyd, medd adroddiad

Mae bwydydd di-glwten yn ddrytach yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd yng Nghymru.

Ar ôl cael sgwrs gyda dietegydd roedd modd i Annalise gael bwyd di-glwten drwy bresgripsiwn o'r feddygfa.

"Dyna beth sy'n poeni fi yw bod yn wahanol i bawb arall", meddai.

"Dwi'n ffeindio fe'n really rhyfedd. Mae pobl yn mynd i'r pharmacy i gael meddigyniaeth ond dwi'n cerdded o 'na gyda bagiau o siopa."

Er yn croesawu unrhyw gymorth tuag at gostau, mae'r broses o fynd i'r feddygfa i gael bwyd yn "ffaff", meddai.

"Dwi'n cael cornflakes a pasta o'r GP. Mae'n oreit, does dim lot o ddewis. Efallai os bydden i'n mynd i'r siop nid hyn fyddai'n dewis, ond mae'n help."

"Mae presgripsiwn yn cymryd 72 awr i brosesu. Mae just ddim mor hawdd i popio mas i gael torth o fara, a wedyn os mae'r pharmacy ddim gyda'r bara mae'n rhaid iddyn nhw archebu fe mewn."

Bethan mewn crys-t Gwyn yn dal ei babi Nel
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bethan Morgan-Bowen ddiagnosis o glefyd seliag yn 14 oed

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cerdyn cymhorthdal i bobl sy'n byw gyda chlefyd Seliag er mwyn talu am y bwydydd, yn hytrach na gorfod eu cael o'r meddyg.

Mae'r cardiau sydd wedi'u llwytho ymlaen llaw yn cael eu hail-lenwi bob chwarter, a bydd yr arian sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi datgelu'r ystod o arian fydd ar gael.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn barod yn cynnig cardiau i gleifion fel rhan o gynllun peilot, fydd nawr yn cael ei ymestyn ar draws Cymru.

Un sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun hwnnw yw Bethan Morgan-Bowen, 29, o Sir Gâr.

Cafodd Bethan ddiagnosis yn 14 oed, a bryd hynny doedd dim llawer o opsiynau o fwyd di-glwten i gael.

"Yn anaml nawr fi'n mynd mas am fwyd a s'dim 'da nhw dim byd a mae'r opsiynau yn y siop lot well hefyd. Yr unig beth yw mae'r prisiau lot yn fwy os ti'n mynd i'r archfarchnad."

"Does dim opsiynau chep really. Sydd ddim yn crazy fi'n gwybod ond mae e bach yn rhwystredig pan ti ffaelu helpu bod ti'n Seliag a maen nhw'n codi prisau."

"Sai'n disgwyl i'r llywodraeth dalu i fi gael stwff ffansi, ond o leiaf nawr ti'n gallu ala'r arian ar beth ti moyn."

Bwydydd di-gluten; bisgedi, pasta, bland, noodles a chnauFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Bethan er bod opsiynau bwydydd di-glwten wedi gwella mae'r prisau dal yn ddrud

Yn ôl y dietegydd Sara Thomas mae'r cynllun newydd yn "ddechrau gwych i leihau'r baich ariannol" ar bobl sy'n byw â'r clefyd.

"Mae'n rhoi mwy o annibyniaeth iddynt o ran y bwydydd maen nhw'n dewis yn yr archfarchnadoedd."

Fe fydd gan bobl y dewis rhwng derbyn carden neu barhau i ddefnyddio'r system bresgripsiwn. Yn ôl Sara mae'r system bresgripsiwn yn "gweithio i'r mwyafrif".

"Yn anffodus mae problemau gyda'r stoc sydd ar gael o'r eitemau yma sydd yn golygu bod angen i bobl aros fwy o amser i gael cynnyrch sydd weithiau'n angenrheidiol iddynt hefyd fel bara neu rawnfwydydd."

Cynllun 'cost-effeithiol' i'r GIG

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rydym am ddad-feddyginiaethu'r cyflenwad o fwydydd di-glwten yng Nghymru, gan roi mwy o ryddid i bobl gael mynediad at y bwyd maen nhw eisiau ei fwyta, yn fwy cyfleus, i'w helpu i reoli eu cyflwr.

"Bydd y cynllun yn cyfrannu at leihau beichiau gweinyddol ar feddygon teulu a fferyllfeydd, wrth hyrwyddo defnydd mwy effeithiol o adnoddau'r GIG."

Mae Tristen Humphreys o elusen Coeliac UK yn galw ar wledydd eraill y DU i ddatblygu polisi tebyg: "Mae angen i ni gydnabod mai diet di-glwten yw'r driniaeth ar gyfer clefyd coeliag, mae'n glefyd hunan-imiwn difrifol nid dewis ffordd o fyw - rydym am i hynny gael ei gydnabod."

Ychwanegodd y bydd cefnogaeth mewn dietau pobl yn helpu i atal cymhlethdodau iechyd yn y dyfodol ac yn "gost-effeithiol" i'r gwasanaeth iechyd ehangach.