Ateb y Galw: Martha Elen

- Cyhoeddwyd
Y gantores Martha Elen sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.
Fe wnaeth Martha, sy'n dod o'r Felinheli yng Ngwynedd, ryddhau ei sengl cyntaf 'Canu Cloch' ar label Ikaching yn mis Ebrill. Yn ôl y label mae'n gân sy'n 'cyfuno gweadau cynnil gwerin-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop'.
Ynghŷd â'i brawd, Jona, mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr y wefan 'Awni?' - gwefan sydd yn ffynhonnell i helpu bobl ddarganfod pa gigs Cymraeg sy'n digwydd ar hyd a lled y wlad.
Beth yw dy atgof cyntaf?
Un o fy atgofion cynhara' ydi o fy mlwyddyn gynta' yn ysgol Hendre, Caernarfon, yn joio fy hun yn lliwio llun o Sam Tân, a wedyn stresho 'rôl sylwi fod ei wynab o'n las - gutted!
Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Adra yn Y Felinheli - caru bod mor agos i'r môr a'r mynyddoedd!

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
Lot o nosweithia' da dros y blynyddoedd - ond un sy'n dal i dopio'r lleill ydi noson 'Leavers' ym Mangor yn dathlu gadael ysgol. Digwydd bod yr un noson oni'n troi'n ddeunaw. Lot o hwyl o be dwi'n gofio!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Swnllyd, prysur, a hapus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Trip fi a'n ffrindia' i Galway, Iwerddon flwyddyn dwytha i ddathlu Dydd San Padrig! Lot o grysa' gwyrdd, lot o grwydro tafarndai, *trio* yfed Guinness, a dod i nabod criwiau o bob cornel o'r byd odd 'di dod draw i ddathlu'r diwrnod!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Ddoe - yn gwylio un o'r Black Mirrors newydd, 'Eulogy'.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Safio cannoedd o 'recipe videos' ar TikTok a byth, byth yn trio un!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Sgenai'm rili hoff lyfr erbyn hyn, isio dechra darllen mwy! O'n i'n darllen lot yn ysgol - reit random ond cofio rili mwynhau astudio Jane Eyre gan Charlotte Bronté! Ella mod i'n licio'r classics, dwnim!
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Swni'n joio cal diod efo unrhyw un ar banel 'Would I Lie To You' - Lee Mack neu David Mitchell wastad yn g'neud i fi chwerthin go iawn!

Beth fyddet ti'n wneud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?
Swni'n mynd am dro, fyny mynydd ella. Cal pryd o fwyd neis adra efo'r teulu (Chan's Felin fysa'r dewis cynta'). Ac os fysa 'na gig ymlaen yn y nos i fynd efo'n ffrindia', dyna fysa'r diwrnod perffaith wedyn!
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Neshi ffeindio'r llunia yma ar hen gamera mam o'n i 'di tynnu yn rhyw dair oed o stafelloedd fi a mrawd. Ma'r stafelloedd wedi'u newid lot erbyn heddiw felly falch mod i 'di penderfynu cadw cofnod ohonyn nhw o'n llygaid i circa 2004 - er dwi'n ama' mai camgymeriad odd y llunia!

Ystafell Martha nôl yn 2004, llun sy'n dod ag atgofion melys o'i phlentyndod

...a llofft ei brawd!
Petasech ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Doechii - ma'i mor cwl !

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 Ionawr