Ateb y Galw: Dylan Wyn Davies

Dylan DaviesFfynhonnell y llun, Dylan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Wyn Davies yn berchennog ar gwmni trin cŵn

  • Cyhoeddwyd

Y perchennog busnes a'r arbenigwr cŵn, Dylan Wyn Davies o Gaerfyrddin, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.

Dros yr wythnosau nesaf bydd Dylan yn ymddangos mewn cyfres newydd ar S4C o'r enw Ci Perffaith.

Gyda help y cyflwynydd Heledd Cynwal, bydd Dylan yn mynd ati i ganfod y ci perffaith ar gyfer pedwar teulu mewn cyfres o bedwar rhaglen.

Felly dyma ddod i adnabod Dylan ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd yn y car gyda Dad-cu pan o'n i tua chwech i saith mlwydd oed ac wrth i ni fynd heibio coedwig ar ochr yr afon Teifi nath rhywbeth bach bwrw ochr y car.

Fe nes i ofyn i Dad-cu beth odd y swn a 'nath e weud bod 'na fwncïod yn byw yn y goedwig a'n taflu pethe at geir.

'Nes i gredu'r stori a wastad yn becso pan yn gyrru heibio'r goedwig am sawl blwyddyn ar ôl 'ny!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar ben mynydd tra bod yr haul yn codi. Sdim ots pa fynydd, ma'r teimlad o godi yn gynnar, cerdded lan y mynydd a gweld yr haul yn codi yn deimlad ffantastig.

Ffynhonnell y llun, Dylan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan yn redwr brwd

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nawr mae hwn yn gwestiwn dyrys! Un diweddar sy'n dod i'r meddwl yw'r noson wobrwyo a drefnais ar gyfer clwb Rhedeg Sarn Helen nôl ym mis Ionawr y llynedd.

Roedd yn noson wych o ddawnsio a chwerthin gyda chwmni anhygoel. Gyda'r bonws ychwanegol o ennill y wobr Cydnabyddiaeth Arbennig a bleidleisiwyd gan aelodau'r clwb.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Empathig, gonest, dibynadwy.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Rwy'n cofio un Nadolig pan roeddwn yn byw adre' gyda fy rhieni, roedd Mam yn golchi'r twrci yn y sinc ac roedd fy chwaer, oedd tua phedwar neu bump oed ar y pryd, mewn panig llwyr ac yn crïo oherwydd roedd hi'n meddwl bod mam yn boddi babi!

O bosib braidd yn ddramatig i fy chwaer druan, ond dwi'n chwerthin pan dwi'n meddwl am y peth.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan o'n i allan yn rhedeg yn mis Hydref. Roedd 'da fi gymaint yn digwydd ar y pryd ac fe ges i fy syfrdanu.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Tapio gyda fy nwylo neu draed.

Mae James fy mhartner yn dweud wrtha'i drwy'r amser i stopio a dyna pryd dwi'n sylweddoli fy mod yn tapio!

Ffynhonnell y llun, Dylan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dylan gyda'i bartner James - dyma un o'i hoff luniau

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff ffilm yw Home Alone.

Dwi ddim yn cofio sawl gwaith yr wyf wedi'i wylio, ond rwy'n gwybod yr holl eiriau i'r ffilm.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan wrth ei fodd gyda'r ffilm Home Alone

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Fy mrawd y gwnaethom golli yn anffodus.

Byddwn wrth fy modd pe bawn wedi cwrdd ag ef i weld y person y gallai fod wedi bod. Mae hynny'n ddwfn ac yn bersonol iawn dwi'n gwybod, ond byddai'n ddiddorol iawn siarad ag ef.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna neb yn ei wybod.

Gallaf chwibanu fel cyw.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae gen i lun ar y wal gartref a dynnais ohonof i a James yng Ngwlad yr Iâ y diwrnod y gwnaethom ddyweddïo.

Rwy'n ei weld bob tro rwy'n cyrraedd adref ac mae bob amser yn gwneud i mi wenu.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Superman. Bydden i'n hedfan rownd y byd a gweld yr holl lefydd dwlen i fynd iddynt!

Ffynhonnell y llun, Dylan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dylan yn ymddangos ar y gyfres Ci Perffaith

Pynciau cysylltiedig