Cyn-weinidog yn awgrymu y dylai Andrew RT Davies fynd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog cabinet Ceidwadol yn dweud fod ganddo amheuon ai Andrew RT Davies ddylai arwain y Torïaid yn y cyfnod cyn etholiad nesaf y Senedd.
Mae Stephen Crabb yn rhybuddio y bydd etholiad 2026 yn “anodd” i’r blaid, a’i bod hi'n "debygol" bod y blaid angen arweinydd arall.
“Os oes angen i’r blaid newid er mwyn goroesi, mae’n anoddach gwneud hynny pan mae gennych chi’r un personoliaethau,” meddai Crabb, a fu'n gwasanaethu yn y cabinet fel ysgrifennydd Cymru ac ysgrifennydd gwaith a phensiynau.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais i wneud sylw.
Ar hyn o bryd mae Davies ar ei ail gyfnod fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd. Bu'n arweinydd am y tro cyntaf rhwng 2012 a 2018 a dychwelodd yn 2021.
Mae wedi bod dan bwysau yn ystod y misoedd diwethaf ar ôl iddo gael ei gyhuddo o wneud sylwadau Islamoffobaidd gan grŵp Mwslemaidd ac wedi i aelod o'i blaid ei gyhuddo o ddefnyddio iaith amhriodol.
Wrth siarad â James Williams ar BBC Radio Wales Breakfast, rhybuddiodd Crabb nad oedd y Ceidwadwyr mewn sefyllfa dda ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
"Rwy'n meddwl y bydd yn etholiad anodd. Bydd Reform yn edrych ar adeiladu ar yr enillion y maent wedi'u gwneud yn etholiadol ... roedd llawer iawn o bobl yn pleidleisio dros Reform ym mis Gorffennaf," meddai.
- Cyhoeddwyd29 Medi
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd24 Medi
Dywedodd nad oedd y blaid wedi bod yn "ddigon da am ddarparu polisïau amgen".
Pan ofynnwyd iddo ai Davies oedd yr arweinydd cywir ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, dywedodd Crabb: "Dydw i ddim yn hoffi gwneud sylwadau am bersonoliaethau."
Ond ychwanegodd: “Os ydych chi’n gofyn i mi a ydw i’n meddwl bod angen adfywio’r blaid Gymreig a'r arweinyddiaeth yng Nghymru, mae’n debyg byddwn yn dweud ydw.
“Os oes angen i’r blaid newid er mwyn goroesi, mae’n anoddach gwneud hynny pan mae gennych yr un personoliaethau.”
Ychwanegodd nad oedd wedi ystyried sefyll fel ymgeisydd ei hun yn etholiad Senedd 2026.
Cefnogaeth gan gadeirydd grŵp
Daw’r sylwadau ar ôl i gyn-bennaeth cysylltiadau cyhoeddus Downing Street, Guto Harri, ddweud bod angen “arweinyddiaeth newydd” ar y Ceidwadwyr yn y Senedd ac nad oedden nhw “yno i dderbyn cyflog yn unig”.
Bu Crabb yn AS dros Breseli Sir Benfro tan etholiad cyffredinol yr haf, pan gollodd ei sedd, fel y gwnaeth yr holl Geidwadwyr Cymreig eraill.
Siaradodd y cyn AS wrth i’w blaid gyfarfod yn Birmingham ar gyfer ei chynhadledd flynyddol.
Dywedodd Crabb ei bod yn amlwg y byddai'r blaid yn wynebu "colled enfawr ym mis Gorffennaf" oherwydd fod y cyhoedd wedi "colli ymddiriedaeth mewn llywodraeth Geidwadol".
Roedd yn gobeithio y byddai arweinydd nesaf y Torïaid "yn meddiannu'r tir canol".
Yng nghynhadledd y blaid, dywedodd cadeirydd grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Kurtz, fod ganddo ef a grŵp y Senedd "hyder llawn" yn Davies.
"Rwy'n meddwl ein bod yn gweithio'n ddiflino i gyflwyno llu o bolisïau a fydd yn ddeniadol i holl bleidleiswyr Cymru yn 2026," ychwanegodd yr Aelod Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.