Cost paratoi'r Senedd ar gyfer mwy o wleidyddion yn £6.5m
- Cyhoeddwyd
Mae cost paratoi'r Senedd ar gyfer cynnydd yn y nifer o wleidyddion bellach wedi cyrraedd £6.5m - £1.2m yn fwy na'r amcangyfrif blaenorol, yn ôl y corff sy'n rhedeg y sefydliad.
Mae Comisiwn y Senedd yn mynnu cynnydd o 16% i'w cyllideb y flwyddyn nesaf gan ddod â'r cyfanswm i £84.3m.
Bydd angen mwy o arian i drefnu'r "newid mwyaf ers datganoli" wrth i nifer yr ASau godi o 60 i 96 yn 2026, yn ôl y Comisiwn.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ehangu nifer yr ASau yn "flaenoriaeth anghywir".
Beth yw Comisiwn y Senedd?
Comisiwn y Senedd sy’n gyfrifol am redeg Senedd Cymru o ddydd i ddydd, gan gynnwys cynnal swyddfeydd y gwleidyddion ym Mae Caerdydd ac adeilad y Senedd ei hun.
Nhw hefyd sy'n gyfrifol am dalu cyflogau ASau a'u staff.
Daw'r cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Gyfunol Cymru.
Bydd y comisiwn yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach ddydd Gwener, ac fe fydd pleidlais ar y cynigion yn y Senedd ym mis Tachwedd.
Fodd bynnag, mae dogfen friffio a ddarparwyd i Aelodau o'r Senedd a ddaeth i law BBC Cymru yn dangos cais am gyllideb o £84.3m ar gyfer 2025-26, sef cynnydd o 16.7% o'i gymharu â 2024-25.
Mae’n dadlau fod y cynnydd yn angenrheidiol oherwydd nifer o ffactorau - gan gynnwys ymrwymiad i gynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus, costau cyn-etholiad wrth i Senedd Cymru symud tuag at bleidlais 2026, a gwaith cynnal a chadw ar Dŷ Hywel, yr adeilad lle mae swyddfeydd ASau.
Mae costau pellach yn gysylltiedig ag archwilio opsiynau posibl pan ddaw'r les ar Dŷ Hywel i ben yn 2032.
Y brif her sy’n wynebu’r comisiwn dros y flwyddyn nesaf fydd addasu swyddfeydd, ac adeilad y Senedd ei hun, ar gyfer 36 Aelod ychwanegol ar ôl 2026.
Y llynedd, fe wnaeth y comisiwn ragweld y byddai angen £5.3m i dalu’r costau hyn yn 2025-26.
Fodd bynnag, yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 mae'r ffigwr yma wedi codi i £6.5m.
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd24 Medi
Dywedodd llefarydd ar ran y comisiwn y byddai’r gyllideb ddrafft yn amlinellu cynllun “i dalu costau rhedeg y Senedd wrth iddi baratoi ar gyfer y newid mwyaf ers datganoli", sef dod yn Senedd o 96 aelod.
Roedd polisi diwygio’r Senedd yn rhan allweddol o’r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru rhwng Rhagfyr 2021 a mis Mai eleni.
Dywedodd Darren Millar, llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae angen brys yng Nghymru am fwy o feddygon, nyrsys a deintyddion - nid am fwy o wleidyddion.
“Mae’r gost i drethdalwyr o ddiwygio’r Senedd yn aruthrol, hyd yn oed cyn i gynlluniau Llafur a Phlaid Cymru am ragor o wleidyddion gael eu gweithredu.
“Mae gwario miliynau ychwanegol ar y vanity project hwn wrth i restrau aros y GIG dorri record am chwe mis yn olynol, yn dangos y blaenoriaethau anghywir.”
Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n "edrych yn ofalus ar fanylion" y gyllideb ddrafft.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.