Her gyfreithiol Cyngor Sir Penfro yn erbyn safle tirlenwi ar ben

Safle tirlenwiFfynhonnell y llun, Colin Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn cwyno am arogleuon gwael o safle Withyhedge ers mis Hydref 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cyngor wedi penderfynu dod â chamau cyfreithiol yn erbyn safle tirlenwi dadleuol yn Sir Benfro i ben.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro nad ydyn nhw'n bwriadu parhau â'r broses gyfreithiol yn erbyn perchnogion safle tirlenwi Withyhedge oherwydd costau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pobl leol wedi cwyno am yr arogl sy'n dod o'r safle, gyda rhai yn dweud ei fod wedi effeithio ar eu hiechyd a'u lles.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi gwneud y penderfyniad "oherwydd yr effaith ariannol posibl" a'r "ffaith bod gwelliant amlwg yn y sefyllfa wedi'i nodi".

Dywedodd y cwmni sy'n rheoli'r safle eu bod yn falch gyda'r penderfyniad, ond mae ymgyrchwyr lleol Stop The Stink yn dweud eu bod nhw bellach yn ystyried cymryd camau cyfreithiol eu hunain.

Yn ôl y cyngor, er iddyn nhw geisio sicrhau gwaharddeb (injunction) dros dro ym mis Hydref y llynedd yn erbyn gweithredwyr y safle, RML, maen nhw wedi penderfynu peidio â pharhau gyda'r broses.

Ar y pryd fe ddywedodd Barnwr Cylchdaith fod y safle'n "niwsans" i bobl leol, ond dywedodd y dylai'r cyngor fod wedi cyflwyno hysbysiad yn gyntaf o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Dywedodd y cyngor eu bod yn "credu'n gryf fod penderfyniad y llys yn anghywir", gan ychwanegu eu bod mewn "sefyllfa anodd wrth ystyried costau apelio".

'Gwelliant amlwg wedi'i nodi'

Yn y gorffennol mae pobl leol wedi cwyno am arogl y safle, gyda rhai yn dweud nad oedden nhw'n gallu agor eu ffenestri yn eu cartrefi.

Mae llawer wedi disgrifio arogl tebyg i wyau wedi mynd yn ddrwg.

Ers i RML dderbyn hysbysiadau gorfodi gan y rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fynd i'r afael â'r materion, mae Cyngor Sir Penfro'n dweud bod "gwelliant amlwg yn y sefyllfa wedi'i nodi".

"Credir yn gryf bod ymdrech gyfreithiol y cyngor drwy'r llwybr hwn wedi bod yn ffactor a gyfrannodd at ddylanwadu ar faint a chyflymder y gwaith adfer a wneir gan y gweithredwr," meddai'r cyngor.

Dywedodd cwmni RML bod y safle wedi ailagor yn dilyn gwaith peirianyddol "cynhwysfawr" i "helpu atal arogleuon yn y dyfodol".

"Mae RML yn falch bod materion hanesyddol ar y safle bellach wedi eu datrys, ac na fydd unrhyw gamau cyfreithiol pellach."

Colin Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Colin Barnett bod ymgyrchwyr Stop The Stink nawr yn ystyried camau cyfreithiol eu hunain

Mae Colin Barnett o ymgyrch leol Stop The Stink yn dweud bod penderfyniad Cyngor Sir Penfro'n "hynod o siomedig", ac mae'r ymgyrch nawr yn ystyried cymryd camau cyfreithiol eu hunain.

"Does dim ymgais i roi unrhyw sancsiwn ar y cwmni hwn o gwbl," meddai.

"Nawr maen nhw [Cyngor Sir Penfro] wedi ei ddympio a gadael ni mewn twll.

"Ein hunig lwybr yn y dyfodol nawr yw cymryd camau cyfreithiol ein hunain yn erbyn y cwmni ac o bosib ein gwasanaethau cyhoeddus am beidio â diogelu ein hawliau statudol."

57 o gwynion yn 2025

Mae swyddogion yn parhau i fod yn bresennol ar y safle tirlenwi yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, gan wneud gwiriadau cydymffurfio rheolaidd yn erbyn amodau'r Drwydded Amgylcheddol.

Bydd yr arogl o fewn y cymunedau gerllaw'r safle hefyd yn cael ei fonitro gyda chefnogaeth gan swyddogion o Gyngor Sir Penfro.

Mae monitor statig sydd wedi ei osod yn Ysgol Spittal, yn parhau i fonitro ansawdd yr aer tan 31 Mawrth 2025.

Dywedodd CNC bod 57 o gwynion am arogl gan gymunedau gerllaw'r safle wedi eu cofnodi yn 2025.

Ond nid ydy CNC na Chyngor Sir Penfro wedi darganfod unrhyw arogl sydd wedi hanu o'r safle ers ail-ddechrau tirlenwi ar 6 Ionawr.

Ychwanegodd CNC bod cwynion am arogl wedi lleihau dros wythnosau diweddar.