Huw Chiswell: 'Cyffro' am y Gymraeg ymysg pobl ifanc ardal Y Cwm
- Cyhoeddwyd
Mae cyffro ac adfywiad yn y Gymraeg ymysg pobl ifanc ardal Eisteddfod yr Urdd 2025 yn ôl un o feibion enwoca’r ardal, Huw Chiswell.
Wrth i’r ŵyl baratoi i fynd i Barc Margam a’r Fro dywedodd y canwr bod agweddau wedi newid ers iddo fe gael ei fagu yno yn yr 1960au a'r 1970au.
Roedd yn siarad ar raglen Bore Sul wrth drafod cân groeso Eisteddfod yr Urdd - cân y mae e wedi ei chydysgrifennu gyda’r cerddor Bronwen Lewis, sydd hefyd yn dod o’r ardal.
Fel rhan o’r broses creu bu’n sgwrsio gydag ieuenctid yr ardal ynglŷn â’r math o syniadau a geiriau fydden nhw’n hoffi eu cynnwys yn y darn.
Aeth y ddau gerddor ymlaen wedyn i ysgrifennu’r gân, sy’n cymryd lle’r cywydd croeso traddodiadol eleni.
'Rhieni yn codi eu plant yn y Gymraeg'
Yn y cyfweliad dywedodd Huw Chiswell bod y criw ifanc sydd ynghlwm ag Eisteddfod yr Urdd 2025 yn etifeddu rhywbeth gwahanol i’r hyn oedd yn yr ardal pan oedd e’n tyfu i fyny.
“Yn sicr, ailddarganfod ac ail-greu yw llawer iawn ohono fe o ran yr iaith a diwylliant dwi’n credu,” meddai. “Roedd ‘na genhedlaeth neu ddwy oedd yn golledig ac mae rheiny nawr yn rhieni ac yn dewis codi eu plant yn y Gymraeg eto ac mae adfywiad yn dod yn sicr.
“Ac mae ysgolion o safon wirioneddol dda yn yr ardal sy’n bwysig iawn i’r gwaith adfywio hynny.
“Wedyn mae 'na gyffro newydd. Ro’n i’n gweld hynny yn y cyfarfod cynta’ hwnnw gyda’r disgyblion pan o’n i’n trafod y gân ac mae gobaith mawr fi’n credu i Forgannwg.”
Perfformio yn Theatr Chiswell
Fel rhan o ddathliadau’r ŵyl fe fydd yn perfformio yn gig cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro 2025 yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera fis Tachwedd.
Bydd y cyngerdd yn digwydd yn Theatr Chiswell, sydd wedi ei enwi ar ôl y cerddor a’i ddiweddar fam, oedd yn gyn-ddisgybl a llywodraethwr yn yr ysgol.
Meddai Huw Chiswell: “Bydd yn arbennig wrth gwrs a byddai’n meddwl am Mam yn sicr yr holl amser achos roedd hi mor ymroddedig i’r ysgol.”
Angen gwaith i bobl ifanc
Fe gafodd Huw Chiswell, sydd bellach yn gyfarwyddwr teledu yng Nghaerdydd, ei fagu yng Nghwm Tawe ac mae’r ardal yn amlwg yn rhai o’i ganeuon fel Nos Sul a Baglan Bae a Gadael Abertawe.
Mae un o’i ganeuon enwocaf - Y Cwm - yn sôn am berson ifanc yn gadael ei fro.
Yn y cyfweliad ar raglen Bore Sul mae’r cerddor yn sôn am bwysigrwydd sicrhau gwaith yn yr ardal yn sgil colli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Dywedodd ei bod yn bwysig cael gwaith yn y dyfodol sydd o fudd i’r bobl yn y gymuned a’r amgylchedd.
Ychwanegodd: “I rai sydd mo'yn aros yn eu cymunedau mae’n angenrheidiol bod 'na rywbeth yna iddyn nhw, neu falle rhai sydd mo'yn gadael am gyfnod a dod nôl pwy a ŵyr... mae rhywbeth iach iawn yn hynny hefyd... mae’n iach iawn mynd bant yn dyw e, ond bod rhywbeth i ddod 'nôl ato.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd1 Mehefin