Cynhyrchu dur yn y dull traddodiadol yn dod i ben ym Mhort Talbot

Gwaith dur TataFfynhonnell y llun, Jon James Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae cau'r ffwrnais chwyth olaf yn rhan o'r ailstrwythuro sy'n cael gwared ar 2,800 o swyddi

  • Cyhoeddwyd

Mae ffwrnais chwyth 4 ym Mhort Talbot wedi cynhyrchu dur am y tro olaf, gan ddod â'r dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru i ben.

Fe wnaeth Tata Steel echdynnu’r haearn hylifol olaf o ffwrnais chwyth 4 brynhawn Llun.

Mae cau’r ffwrneisi yng ngweithfeydd dur mwyaf y DU yn rhan o ailstrwythuro a fydd yn cael gwared â 2,800 o swyddi.

Bydd cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn y dyfodol yn dibynnu ar fewnforion, cyn adeiladu ffwrnais drydan a fydd yn toddi dur sgrap.

Disgrifiad o’r llun,

Dilynodd Rhidian Mizen ei dad i weithio ym Mhort Talbot, ac mae ei feibion bellach yn aros i glywed os yw eu swyddi'n ddiogel yn y gweithfeydd dur

“Pan 'nes i ddechrau roedd dros 10,000 o bobl yn gweithio yna. Mae lot o newidiadau wedi bod dros y blynyddoedd, a’r holl ansicrwydd,” meddai Rhydian Mizen, sy’n 71.

Dilynodd ei dad i weithio yng ngwaith dur Port Talbot am 38 o flynyddoedd cyn ymddeol.

“Mae’n ddiwedd cyfnod, diwedd oes y gwaith dur traddodiadol ym Mhort Talbot,” meddai.

“Roedd fy nhad yn gweithio yna cyn y rhyfel, a ffrindiau yn gweithio yna.”

Mae ganddo ddau fab sy’n gweithio yna ar hyn o bryd ac sy’n aros i glywed os yw eu swyddi yn diflannu.

Er y newidiadau mawr, mae Rhydian yn croesawu’r ffaith bod ffwrnais drydan newydd yn dod i Bort Talbot yn y dyfodol.

“Mae yna o hyd, ac fe fydd e yna dros y blynyddoedd i ddod,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

James Raleigh yw un o'r rhai sy'n gyfrifol am y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot

Mae ffwrneisi chwyth yn cynhyrchu haearn tawdd trwy hollti mwyn haearn - adwaith cemegol sydd angen tymheredd uchel, ac sy'n allyrru lefelau uchel o garbon.

Dyma’r ffordd i wneud dur cynradd, gan ei fod yn echdynnu haearn o'i ffynhonnell wreiddiol ac wedyn yn cael ei drin i greu pob math o ddur.

Cafodd y BBC ganiatâd i recordio y tu mewn i'r ffwrnais chwyth wrth i'r broses ddod i ben.

Disgrifiad,

Bydd y ffwrnais chwyth yn cynhyrchu dur am y tro olaf, gan roi diwedd ar y dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru

“Rydw i wedi bod yno sawl gwaith, ond mae dal yn drawiadol iawn i mi,” meddai James Raleigh.

Fel rheolwr technegol gwaith yr adran golosg, sinter a haearn, mae Mr Raleigh wedi bod yn aelod o’r tîm sy’n gyfrifol am y ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.

"Mae’r diwydiant yma yn gweithio ar raddfa hollol enfawr. Mae'n dal yn drawiadol iawn bob tro dwi'n mynd i mewn yno," meddai.

Mae tymheredd y tu mewn i'r ffwrnais yn cyrraedd dros 2000C, gyda haearn hylifol yn cael ei echdynnu gan weithwyr ac yn llifo allan ar dymheredd o tua 1500C.

Cafodd y gyntaf o ddwy ffwrnais chwyth Port Talbot ei chau ym mis Gorffennaf, a bydd cau’r ail yn nodi diwedd y gwaith dur cynradd yng Nghymru.

Mae Tata Steel UK wedi dweud yn gyson bod y gweithfeydd a’r ffwrneisi chwyth yn gwneud colled o £1m y dydd.

Bydd buddsoddi £1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur.

Mae llywodraeth y DU yn cyfrannu £500m tuag at gost y dechnoleg newydd ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2025.

Yn y cyfamser bydd dur wedi’i fewnforio yn cael ei felino ym Mhort Talbot, ac yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a safleoedd eraill Tata yn Nhrostre, Llanwern a Shotton.

Dywedodd yr Athro Geraint Williams o Brifysgol Abertawe fod diwedd cynhyrchu drwy’r ffwrnais chwyth yn “drobwynt mewn gwneud dur” yn y DU, gyda’r newid i dechnoleg y ffwrnais drydan yn her newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Williams na fydd “mathau arbennig o ddur yn gallu cael eu cynhyrchu” ym Mhrydain gyda’r dechnoleg newydd

“Mae anfantais i hynny. Ffordd o ailgylchu dur yw defnyddio’r ffwrnais drydan, i aildoddi’r dur.

“Yn y broses yna, 'da chi ddim yn creu dur cynradd. Chi’n gorfod ailgylchu’r dur sydd yn y system yn barod. Ac wrth gwrs mae amhureddau a phethau yn cael eu cynnwys yn y dur.”

Fe fydd rhaid mewnforio dur yn ystod y cyfnod ar ôl i’r ffwrnais chwyth gau a chyn i’r ffwrnais drydan agor.

Ond fe fydd “mathau arbennig o ddur ddim yn gallu cael eu cynhyrchu” ym Mhrydain gyda’r dechnoleg newydd, yn ôl yr Athro Williams.

“Fyddwn ni’n gorfod dibynnu ar fewnforio dur cynradd o wledydd eraill i allu gwneud hynny.”

Ymateb gwleidyddol

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan bod heddiw yn "ddiwrnod trist ac yn ddiwedd pennod yn hanes gwneud dur yng Nghymru, ond ddim yn ddiwedd ar 'neud dur [yn gyfangwbl] yng Nghymru."

Roedd o'r farn fod 'na "fai ar y llywodraeth Torïaid diwethaf" am iddyn nhw beidio "paratoi ar gyfer strategaeth ddiwydiannol newydd".

Dywedodd fod cau y ffwrneisi chwyth wedi effeithio'r ardal yn fawr: "Swyddi dal yn cael eu colli, tâl da a'r effaith seicolegol ar yr ardal ac ar ddiwylliant y lle".

Aeth ymlaen i ddweud bydd "buddsoddiad anferthol o £1.25bn yn mynd i'r electric arc furnace newydd 'ma" gan ychwanegu bydd "500 o swyddi newydd yn cael eu creu er mwyn adeiladu'r ffwrnais drydan newydd" yn y gwanwyn.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi ac Aelod Senedd Gorllewin De Cymru, Luke Fletcher: "Mae hyn yn fwy na dim ond ffatri'n cau - dyma ddiwedd ar waith dur Cymru a bywoliaeth gweithwyr di-ri a theuluoedd.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro o blaid pwysigrwydd strategol gwneud dur i fuddiannau economaidd Cymru, diogelwch cenedlaethol a’r llwybr i sero net.

"Mae’n siomedig tu hwnt bod y ddwy blaid yn San Steffan wedi caniatáu i hyn ddigwydd.

"Ni allwn adael i’r drasiedi hon ddiffinio dyfodol ein heconomi; rhaid inni nawr gynllunio ar gyfer adfywiad ein diwydiant dur a’r swyddi medrus iawn y mae’n eu darparu.”

Adeg cyhoeddi'r newyddion dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Geidwadol y DU eu bod "yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy a chystadleuol i ddiwydiant dur y DU", a'u bod wedi rhoi £500m i'r safle er mwyn "amddiffyn miloedd o swyddi".