Oriel: Cerrig milltir Cymru
- Cyhoeddwyd
Pwy sydd wedi bod am dro dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd ac wedi dod ar draws carreg filltir?
Mae 'na rai o bob math i'w gweld ledled Cymru; o'r mawr i'r bach, i'r addurnedig i'r plaen. Ond ydyn nhw'n mynnu sylw neu'n dueddol o ddiflannu i mewn i'r tirwedd?
Dyma ddetholiad ohonyn nhw:

Mae'r garreg filltir hardd yma ar Bont Pen Llyn ym Mrynrefail yn dod gyda golygfa arbennig o Lyn Padarn a mynyddoedd Eryri yn y cefndir

Peidiwch disgwyl â dod o hyd i'r garreg yma yng nghyffiniau Penybont; mae i'w ffeindio yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan y dyddiau yma

Carreg filltir syml iawn yn Aberdaron, yn nodi'r pellteroedd i Nefyn, Caernarfon a Sarn Mellteyrn

Mae Wrecsam 9 milltir, a'r Wyddgrug 2 filltir o'r bont yma ger Coed-llai yn Sir y Fflint

Mae meincnodau (benchmarks) yn aml i'w gweld ar gerrig milltir, sef symbol o linell lorweddol ar ben saeth, sydd yn nodi uchder y llinell uwch lefel y môr. Mae gan y nod ar y garreg yma ger Aberteifi linell arall drwyddi, sydd yn ei gwneud yn annilys - mae'n siŵr gan fod y llinell dop bellach ddim yn syth, o bosib ar ôl i gar hitio'r garreg rhywdro

Yn Nghasnewydd mae'r garreg yma, ond dydi o ddim mor hen â mae'r dyddiad ar y cefn yn ei awgrymu. Cafodd ei godi fel rhan o brosiect celfyddydol yn 2016 i gofio Terfysg Casnewydd yn 1839

Un arall sydd bellach mewn amgueddfa... mae hon yn hen garreg filltir oedd i'w gweld ar y ffordd rhwng y setliadau Rhufeinig Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon)

Wyddoch chi fod Penparcau, Aberystwyth 157 milltir o Rydychen a 48 milltir o Lanymddyfri?

Carreg restredig Gradd II ym Mhorthaethwy, ar Ffordd Mona - un o'r cerrig milltir a osodwyd gan Thomas Telford pan aeth ati i wella'r siwrne rhwng Llundain a Chaergybi ddechrau'r 1800au; rhan o'r prosiect yma oedd i adeiladu Pont y Borth i gysylltu Ynys Môn â'r tir mawr

Hen garreg fawreddog o 1860 yng nghanol tref Aberdâr yn nodi'r milltiroedd i Gaerdydd (22 3/4), Merthyr (6), Llundain (182 3/4), Aberhonddu (23) a Chastell-nedd (19)

Mae'r garreg yma yng Nghilgeti, er yn gywir o ran y pellteroedd o Hobb's Point yn Noc Penfro, a Chaerfyrddin, wedi cael ei symud i ochr arall y ffordd ar ryw adeg, ac felly mae'r enwau yn wynebu'r ffordd anghywir

Droad y mileniwm, cafodd 1,000 o gerrig milltir lliwgar o haearn eu codi i nodi sefydlu'r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, fel yr un yma sydd i'w weld ar Lwybr Arfordirol Cymru yn Shotton

Carreg enfawr o'r 18fed ganrif dros y ffin yn Craven Arms yn nodi pa mor bell mae rhai o drefi Cymru

Darn o lechen yn nodi'r ffordd ym Mwlch y Gorddinan (Crimea)

Anodd yw ffitio'r enwau 'Newtown' (Y Drenewydd) a 'Machynlleth' yn llawn ar garreg filltir

Dydi'r garreg filltir rydlyd yma ger Llanffestiniog ddim am fod o help mawr os yn cael cipolwg sydyn ohoni o ffenest car cyflym...

... a dydi'r un yma o Dal-y-bont, rhwng Conwy a Llanrwst fawr gwell!

Carreg filltir a chyfle am lymaid mewn un, ym Mhenfro
Oes 'na garreg filltir ddiddorol yn lleol i chi? Anfonwch lun at cymrufyw@bbc.co.uk
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023