Corlannau Cymru o'r awyr
- Cyhoeddwyd
Mae’r gorlan ddefaid yn olygfa digon cyffredin yng nghefn gwlad Cymru, ond mae gwaith ymchwil un gŵr a’i luniau trawiadol yn taflu goleuni newydd arnyn nhw.
Mae Nigel Beidas yn dogfennu’r corlannau ar y Carneddau, yn ngogledd orllewin Cymru, a chanddo ddiddordeb arbennig mewn un math yn benodol - y rhai efo sawl ‘cell’ sy’n cael eu rhannu gan ffermwyr sy’n pori defaid ar dir comin ar yr ucheldir.
Dim ond mewn tair gwlad arall mae ‘na gorlannau o’r fath wedi eu cofrestru - y Swistir, Gwlad yr Iâ a Croatia.
Mae eu defnydd yng Nghymru yn mynd yn ôl hyd at 300 mlynedd ac felly mae'r gwaith yn cofnodi rhan bwysig o dreftadaeth amaethyddol Cymru.
Gan gerdded ar hyd y mynyddoedd i'w darganfod, mae Nigel yn defnyddio camera i dynnu lluniau o’r awyr i amlygu eu patrymau hardd a’r ffordd maen nhw’n gweithio.
Fe eglurodd y cefndir wrth Aled Hughes, wrth i’r cyflwynydd baratoi i gerdded Taith y Pererinion o Dreffynnon i Aberdaron mewn saith diwrnod fel ei sialens Plant Mewn Angen eleni.
Mae’r system ‘aml gell’ yn cael eu defnyddio gan amaethwyr o wahanol ffermydd sy’n pori eu defaid ar dir comin y mynyddoedd. Ar adegau penodol o’r flwyddyn mae angen eu casglu i gyd o’r mynydd a'u harwain i brif gell yng nghanol y gorlen - cyn eu didoli i’r perchennog cywir.
“Rownd y gell ganol mae celloedd eraill a ma’r holl beth yn edrych fel blodau efo petalau rownd y canol,” meddai Nigel.
“Mae gan bob fferm sy’n defnyddio’r gorlan gell eu hunain so maen nhw’n gallu symud defaid, er enghraifft defaid Fferm A yn mynd i Gell A. Mae’n ffordd hawdd i ddidoli defaid allan o’r holl braidd.”
Eglurodd bod dros 3,000 o gorlannau yng ngogledd Cymru, ond dim ond tua thri y cant sy’n amlgellog - sy'n golygu o leiaf pedwar o gelloedd.
“Mae’r rhan fwya’ o'r rhai mawr maen nhw efo rhwng 10 o gelloedd i fyny at 30,” meddai Nigel.
“Mae un yng Nghwm Caseg - Buarth Mawr y Braich - mae ganddo 30 o gelloedd. Mae o’n massive - mae o'n fwy na 100 o fetrau o hyd.”
Mae tua chwarter y corlannau sydd yn ardal y Carneddau yn dal i gael eu defnyddio heddiw.
Yr un patrwm sy’n bodoli ers hyd at 300 mlynedd - sef casglu deirgwaith y flwyddyn, ym mis Gorffennaf cyn cneifio, mis Medi i wahanu’r mamogiaid a’r ŵyn, a diwedd yr Hydref pan maen nhw’n clirio’r mynydd dros y gaeaf.
Bellach mae Nigel wedi creu gwefan sy'n rhoi hanes y corlannau, dolen allanol ac oriel gyda nifer o luniau trawiadol.
Mae o hefyd yn dogfennu adeiladau eraill amaethyddol ar y mynyddoedd - fel cytiau bugail a thrapiau llwynogod.
Dywed ei bod yn bwysig dogfennu er mwyn sicrhau cofnod o ran o hanes treftadaeth amaethyddol yr ardal.
Meddai Nigel: “Dwi’n licio eu gweld nhw - maen nhw’n ganol nunlle felly dwi’n cael lot o hwyl yn mynd allan i weld nhw.
“Ond dwi wedi ffeindio hanner ffordd drwy’r prosiect o dynnu’r lluniau ohonyn nhw pa mor bwysig ydi o i gael y wybodaeth achos unwaith mae’r ffermwyr yn stopio defnyddio’r corlannau mae lot o’r peth yn diflannu - dim jest y strwythur o ond mae’r enwau yn diflannu ac yn y blaen ac felly mae’n bwysig i gadw’r cofnod rŵan."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd7 Hydref