£18,500 o iawndal i ddyn dall gafodd ei ddiswyddo o fecws
- Cyhoeddwyd
Mae dyn dall gafodd ei ddiswyddo yn ystod cyfnod prawf gyda becws yn sgil honiadau ei fod wedi gwneud camgymeriadau wedi cael iawndal o £18,500.
Fe gollodd Ian Stanley ei swydd chwe wythnos ar ôl dechrau cyfnod prawf o dri mis gyda The Village Bakery yng Nghoedpoeth ger Wrecsam.
Roedd y cwmni - sy'n cyflogi 170 o bobl ar y safle - yn honni fod y penderfyniad wedi ei wneud am resymau diogelwch, a bod yna beryg o achosi niwed i beiriannau.
Daeth tribiwnlys cyflogaeth i'r casgliad na chafodd digon ei wneud gan y cwmni i helpu Mr Stanley addasu a chynefino i'r gwaith.
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021
Roedd Mr Stanley, gafodd ddiagnosis o syndrom Bardet Biedl a'i gofrestru yn ddall yn 2010, wedi gweithio mewn ffatri yn pecynnu nwyddau am 18 mlynedd cyn cael ei gyflogi gan The Village Bakery.
Dywedodd un o reolwyr nos y safle yng Nghoedpoeth ei fod wedi derbyn adroddiadau fod Mr Stanley yn gwneud camgymeriadau amrywiol, gan gynnwys peidio glanhau eitemau yn gywir.
Ar ôl chwe wythnos o'i gyfnod prawf, cafodd ei ddiswyddo.
Yn ôl rheolwr y becws, Tom Breeze, doedd y cwmni methu fforddio cyflogi rhywun i roi cymorth i Mr Stanley, hyd yn oed yn y tymor byr.
'Triniaeth anffafriol'
Daeth y tribiwnlys cyflogaeth i'r casgliad y dylai'r cwmni fod wedi rhoi mwy o amser i Mr Stanley ymgyfarwyddo â'r ffatri a'i phrosesau.
Fe wnaeth y barnwr Rhian Brace gefnogi honiad Mr Stanley ei fod wedi cael "triniaeth anffafriol" wrth gael ei ddiswyddo oherwydd ei anabledd.
"Daethom i'r casgliad y byddai rhoi mwy o amser i'r hawlydd ddysgu'r prosesau, dod i adnabod y bobl a'r ffatri wedi bod yn gam effeithiol," meddai.
Fe wnaeth y panel wrthod dadl y cwmni fod iechyd a diogelwch yn ffactor yn y penderfyniad, gan fod Mr Stanley wedi gweithio ar y safle am chwe wythnos heb i asesiad iechyd a diogelwch gael ei gynnal.
Cafodd Mr Stanley iawndal o £18,500 - gan gynnwys £12,000 am yr effaith ar ei deimladau.