11 yn y llys wedi honiadau o fridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll

Roedd cyn-enillydd Cân i Gymru, Sara Davies, a'r Cynghorydd Euros Davies ymysg y rhai oedd yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae 11 o bobl wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â honiadau am fridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll.
Ymhlith y diffynyddion fore Mercher roedd cynghorydd sir Ceredigion, Euros Davies, a'r gantores Sara Pritchard Davies, cyn-enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru S4C yn 2024.
Mae'r achos wedi cael ei ddwyn gan Gyngor Sir Ceredigion.
Plediodd Sara Davies yn ddieuog, drwy gyfrwng y Gymraeg, i gyhuddiad o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus, sef bridio a chyflenwi cŵn yn anghyfreithlon, ac ail gyhuddiad o gaffael eiddo troseddol, sef arian trwy weithgarwch troseddol.

Fe wnaeth Margaret Ann Jones a Rebecca Bailey ymddangos yn y llys fore Mercher
Plediodd Margaret Jones a Rebecca Ellen Bailey yn ddieuog i un cyhuddiad o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus, sef bridio a chyflenwi cŵn yn anghyfreithlon.
Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth gan y Barnwr Huw Rees tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 2 Medi.

Rhydian Davies, David Bethell, Cara Barrett a Delyth Mathias yn cyrraedd y llys fore Mercher
Plediodd Euros Davies, Delyth Mathias, Cara Barrett, Rhydian Davies a David Bethell yn ddieuog i gyhuddiad o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus, sef bridio a chyflenwi cŵn yn anghyfreithlon.
Plediodd Euros Davies a Delyth Mathias yn ddieuog i gyhuddiadau pellach o gaffael eiddo troseddol, sef arian drwy weithgarwch troseddol.
Cafodd y pump eu rhyddhau ar fechnïaeth tan 2 Medi.

Bydd Thomas Jones (chwith), Nerys Davies a David Peter Jones yn Llys y Goron Abertawe eto ar 12 Awst
Mae dyddiad dros dro wedi cael ei nodi ar gyfer achos llys, sef 9 Tachwedd 2026.
Doedd yna ddim cais i Thomas Jones, David Peter Jones a Nerys Wyn Davies bledio - byddan nhw yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ar 12 Awst eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill