11 yn pledio'n ddieuog i fridio cŵn anghyfreithlon a thwyll

Roedd cyn-enillydd Cân i Gymru, Sara Davies, a'r Cynghorydd Euros Davies ymysg y rhai oedd yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae 11 o bobl wedi ymddangos yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth mewn cysylltiad â chyhuddiadau o fridio cŵn anghyfreithlon a thwyll.
Mae'r 11 wedi cael eu cyhuddo o dan Ddeddf Twyll 2006 a Deddf Enillion Troseddau 2002.
Roedd cyn-enillydd Cân i Gymru, Sara Pritchard Davies, a'r cynghorydd sir Euros Davies, ymhlith yr 11 oedd yn y llys.

Peter Jones (chwith) a Thomas John Jones yn cyrraedd y llys yn Aberystwyth fore Mawrth
Fe benderfynodd y Barnwr Rhanbarthol, Mark Layton, oedd yn gwrando ar yr achos trwy gyswllt fideo, i drosglwyddo'r achos i Lys y Goron.
Cafodd yr 11 eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.
Mi fyddan nhw yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 30 Mai.

Fe wnaeth (o'r chwith i'r dde) Nerys Davies, Margaret Ann Jones, David Benjamin Bethell, Delyth Mathias a Rhydian Davies hefyd ymddangos yn y llys
Yr 11 ymddangosodd yn y llys oedd
Rebecca Ellen Bailey, 30 oed, o Langrannog. Wedi pledio yn ddieuog i bedwar cyhuddiad
Cara Michelle Barrett, 38 oed, o Gaerfyrddin. Wedi pledio yn ddieuog i un cyhuddiad.
David Benjamin Bethell, 37 oed o Saron. Wedi pledio yn ddieuog i un cyhuddiad.
Cynghorydd Euros Davies, 59 oed, o Gwmsychbant. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad,
Nerys Davies, 54 oed, o Benrhiwllan. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
Rhydian Davies, 27 oed o Brengwyn. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
Sara Pritchard Davies, 28 oed, o Brengwyn. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
David Peter Jones, 76 oed, o Landysul. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
Margaret Ann Jones, 70 oed, o Landysul. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
Thomas John Jones, 26 oed, o Brengwyn. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
Delyth Mathias, 29 oed, o Gaerdydd. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.