Pwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin i gau am dri mis

Bydd y gwaith atgyweirio yn cymryd oddeutu tri mis i'w gwblhau
- Cyhoeddwyd
Bydd pwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn cau am dri mis oherwydd gwaith atgyweirio "hanfodol", medd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 14 Ebrill, ac yn digwydd yn sgil pryderon diogelwch ynghylch nifer cynyddol o deils wyneb yn dod yn rhydd.
Er bod y cyngor sir eisoes wedi bod yn atgyweirio teils a gosod matiau pwll dros y misoedd diwethaf, maen nhw bellach angen ail-leinio'r ddau bwll yn llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth eu bod yn ddiolchgar am "amynedd" cwsmeriaid.
"Rydym yn deall y bydd gan lawer o gwsmeriaid gwestiynau am sut y bydd hyn yn effeithio ar eu hymweliadau," meddai.
Ychwanegodd bod y cyngor "eisoes wedi dechrau cysylltu â gwahanol randdeiliaid a defnyddwyr i roi gwybodaeth fwy penodol".