Covid-19 wedi 'rhoi yr hyder i fod y nyrs rwy' moyn bod'

- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd bellach mewn sefyllfa "fwy brau" i ddelio ag unrhyw bandemig yn y dyfodol, er gwaethaf ymdrech "anhygoel" staff yn ystod argyfwng Covid-19.
Dyna rybudd gan un o arbenigwyr amlyca' Cymru ym maes clefydau heintus - a hynny bum mlynedd ers cyflwyno'r cyfnod clo cyntaf.
Yn ôl yr Athro Angharad Davies, o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, mae prinder "ofnadwy" o staff, diffyg capasiti, a'r "argyfwng rhestrau aros" yn profi fod y gwasanaeth yn dal i deimlo ôl-effeithiau difrifol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod gwaith diflino staff gan nodi bod mwy na biliwn o bunnau wedi'i wario i geisio adfer y gwasanaeth iechyd yn y pandemig.
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
Yn ôl yr Athro Angharad Davies, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Clinigol i Goleg Brenhinol y Patholegwyr, un broblem amlwg oedd maint y straen ar y gwasanaeth iechyd cyn Covid a pha mor denau oedd adnoddau wedi eu gwasgaru.
"Y drwg oedd bod y pandemig wedi taro gwasanaeth iechyd oedd â dim capasiti sbâr o gwbl - oherwydd gwasgfa a thangyllido yn y blynyddoedd blaenorol" meddai.
"Mi wnaeth staff ymateb yn anhygoel i'r her ond mae'r profiad wedi gadael y gwasanaeth yn fwy brau fyth achos aethon ni'n syth 'nôl i'r crisis rhestrau aros...
"Mae'r sefyllfa o ran y gweithlu yn ddrwg iawn a llawer iawn yn burnt-out."meddai.

Dywed yr Athro Davies fod cyfleoedd wedi'u gwastraffu i gryfhau seiliau'r gwasanaeth iechyd ei hun yn ystod y pandemig
Dywedodd hefyd ei bod wedi'i syfrdanu ar faint o arian "gafodd ei daflu" yn ystod y pandemig ar ddatrysiadau "dros-dro" gan gwmnïau preifat.
Awgrymodd fod gwleidyddion, o ganlyniad, wedi gwastraffu cyfle i gryfhau seiliau'r gwasanaeth iechyd ei hun.
"Un peth oedd yn sioc i mi oedd y fath arian gafodd ei daflu ar greu canolfannau profion diagnostig preifat dros dro a rheiny ddim yn cyrraedd y safonau arferol...ac maen nhw i gyd wedi cau rŵan" meddai.
"Tase'r holl arian wedi ei wario ar labordai clinigol yn y gwasanaeth iechyd...byddai'r gwasanaethau nawr yn dal i elwa o'r buddsoddiad hyd heddiw.
"O ran paratoadau'r gwasanaeth iechyd (ar gyfer pandemig arall) - dwi ddim yn gweld bod pethau yn llawer iawn pellach nag oeddem ni cyn Covid-19."
'Arwain y byd mewn ymchwil'

Dechreuodd treialon i ymchwilio beth oedd yn effeithiol neu ddim yn effeithiol ar gyfer trin Covid-19 ym Mhrydain
Ond mae'r Athro Davies hefyd yn cydnabod fod y pandemig wedi arwain at ddatblygiadau cadarnhaol mewn rhai meysydd fel ymchwil meddygol.
Chwaraeodd hi ran flaenllaw yn yr ymateb i Covid drwy sefydlu ac arwain nifer o dreialon clinigol i ymchwilio triniaethau newydd.
Mae'n dadlau fod Prydain wedi "arwain y byd" wrth ddefnyddio ymchwil i achub bywydau.
"Un peth ydw i'n cofio'n glir iawn oedd y gwaith ar y treialon i ymchwilio'n gyflym beth oedd yn effeithiol neu ddim yn effeithiol ar gyfer trin Covid-19...ac mi gychwynodd y rheiny yn llythrennol o fewn diwrnod neu ddau i'r pandemig gyrraedd Prydain.
"A wnaeth Prydain arwain y byd yn y maes yma ac achub bywydau diri ar draws y byd o ganlyniad."
Y perygl o beidio parchu natur
Er y datblygiadau hynny mae hefyd yn poeni am y dyfodol ac yn dadlau bod y ffordd mae dynoliaeth yn trin byd natur a'r amgylchedd yn cynyddu'r risg o weld pandemig peryglus arall.
"Mae'r ffordd 'da ni'n amharu ar gynefinoedd naturiol a'r ffordd mae dyn wedi dod i gyswllt ag anifeiliaid - ddylen ni fod gadael llonydd i'w microbiomau nhw," meddai'r Athro Davies.
"Nid yn unig newid hinsawdd yw'r broblem...ond hefyd yr ymyrraeth ecolegol sy'n beryg i'n hiechyd ni.
"'Da ni'n gweld mwy o achosion o ebola ar draws gwahanol ardaloedd yn Affrica oherwydd bod pobl yn dod i gysylltiad ag anifeiliaid sy'n cario'r firws ac yn tramgwyddo ar eu cynefinoedd nhw.
Ychwanegodd bod rhaid i bobl fod yn "fwy gofalus" a gadael i anfeiliaid fyw yn eu cynefinoedd.
5 mlynedd ers Covid - lle maen nhw nawr?
5 mlynedd yn ôl siaradodd Cymru Fyw gydag amryw o fyfyrwyr oedd wedi dewis dechrau gweithio yn y gwasanaeth iechyd cyn iddyn nhw raddio.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd pryder gwirioneddol y gallai'r gwasanaeth gael ei lethu gan y niferoedd oedd yn ddifrifol wael gyda'r firws.

Dechreuoddd Sophie a Megan weithio'n y gwasanaeth iechyd yn gynnar, cyn iddyn nhw raddio, er mwyn rhoi cymorth i dimoedd ar y rheng flaen
Gweithiodd Megan Ware, oedd yn fyfyrwraig nyrsio ail flwyddyn ar y pryd, mewn sawl rhan o ysbyty Treforys, o ofal brys i ofal dwys yn ystod ton gyntaf Covid yn 2020.
Bellach yn ei swydd fel nyrs gymunedol sy'n arbenigo mewn anableddau dysgu plant, mae'n rhoi cymorth i nifer o deuluoedd yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.
Dywedodd fod dewis gweithio'n gynnar yn ystod Covid wedi magu hyder ynddi.
"Oeddwn i'n berson eitha' shy a dim lot o hyder. O gael fy nhaflu mewn i'r sefyllfa 'na yn ystod Covid odd rhaid bod yn resilient odd rhaid gweithio'n galed.
"Fi 'di gallu cael y swydd yma ac yn gweithio mewn tîm ffab a chael yr hyder i fod y nyrs rwy' moyn bod - a gwybod bo' fi'n gallu gwneud - na'th Covid brofi hynny."

Mae Megan bellach yn nyrs gymunedol yn arbenigo mewn anableddau dysgu plant ym mwrdd iechyd Hywel Dda
Fe gafodd swydd Megan ei sefydlu i raddau oherwydd bod cymaint o blant wedi dioddef o ganlyniad i'r cyfnodau clo.
"Daeth lot o referrals mewn i'r tîm plant yn ystod Covid oherwydd ymddygiad oedd teuluoedd yn gorfod delio ag e. O'dd plant ddim yn gallu mynd i'r ysgol a ddim yn gallu mynd i respite services.
"Odd bywyd teuluol yn rili anodd iddyn nhw. Roedd rhai plant yn ffeindio fe'n arbennig o anodd bod mewn stafell drwy'r dydd achos oedd e'n amharu ar eu rwtîn nhw.
"Mae'r angen [am wasanaethau i helpu plant] wedi dod o fan 'na a'r angen yn dal yn fawr."

Pan gafodd y cyfnod clo cyntaf ei gyflwyno ddiwedd Mawrth 2020 - roedd Sophie Jones, yn fyfyrwraig bydwreigiaeth ar ei thrydedd flwyddyn.
Ond o fewn ychydig wythnosau roedd hi'n gweithio yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Glangwili.
"Oedden nhw'n annog pawb oedd yn y drydedd flwyddyn i fynd mas i weithio fel pâr arall o ddwylo.
"Oedd e'n brofiad ansicr i ni gyd ond wedi gweithio mewn ffordd bositif i fi oherwydd ges i swydd barhaol yma yn y pendraw."

Roedd y pandeimg yn gyfndo heriol i deuluoedd newydd yn ôl Sophie
Yn ystod y cyfnod hwnnw, oherwydd cyfyngiadau Covid, dim ond am gyfnod o ddwy awr oedd tadau a phartneriaid yn gallu treulio gyda mamau yn ystod geni.
Un o atgofion pennaf Sophie oedd pa mor heriol oedd hynny i'r teuluoedd newydd.
"Odd dim modd i'r partneriaid eu cefnogi'r [Mamau] ac roedd yn rhaid i ni fel staff gynnig llawer iawn mwy o gefnogaeth.
"Ond diolch byth - mae 'na newid byd wedi bod ers hynny a phartneriaid yn gallu bod yma bedair awr ar hugain ac aros dros nos os ydyn nhw'n dymuno.
"Ni'n gweld pobl, yn dod 'nôl nawr i gael babi ar ôl cael y babi diwethaf yn ystod Covid - ac ma' nhw'n sôn bod e'n brofiad gwbl wahanol nawr!"
Erbyn hyn mae Sophie yn fydwraig barhaol yng Nglangwili ac wrth ei bodd.
"Dwi'n gwneud bach o bopeth...does dim un diwrnod yr un peth.
"Dwi'n dwli gofalu am fenywod a babanod - ac yn gobeithio gallu aros yn gwneud hynny am flynyddoedd i ddod."
'Staff wedi gweithio'n ddiflino'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi gweithio'n ddiflino i ymateb i heriau'r pandemig ac yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel pan fo pobl ei angen fwyaf."
"Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi mwy na £1bn i drawsnewid sut mae gwasanaethau yn cael eu cynnig ac i daclo amseroedd aros ac rydym yn falch o weld cynnydd wrth leihau amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a maint cyffredinol y rhestr aros.
"Mae gan y GIG yng Nghymru nawr fwy o staff nag unrhywbryd yn ei hanes, yn cyflogi bron i 97,000 o staff cyfwerth â llawn amser - cynnydd o 21% o gymharu â chyn y pandemig."