Dros 100,000 i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni

Eisteddfod yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf erioed i fwy na 100,000 gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 ym Meifod yr wythnos nesaf, mae'r mudiad wedi cyhoeddi y bydd mwy nag erioed yn cystadlu yno.

Dywedodd yr Urdd fod 100,454 wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl eleni.

Dyma'r tro cyntaf yn hanes y mudiad i'r ffigwr gyrraedd dros 100,000, ac yn ôl cyfarwyddwr y celfyddydau, mae'n arwydd o sut mae'r ŵyl wedi datblygu a thyfu dros y blynyddoedd.

Dywedodd Llio Maddocks: "Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n denu cynifer o gystadleuwyr i berfformio yn ogystal â chynnig profiadau celfyddydol ar y maes i'n holl ymwelwyr.

"Mae'r Eisteddfod yn cynnig rywbeth i bawb - o'r cystadlu traddodiadol i gelf, crefft, colur a choginio - ac mae llawer o ardaloedd ar y maes i ymlacio ac i fwynhau fel y pentre bwyd, y ffair, ardal chwaraeon, yr Arddorfa a llwyfannau Gŵyl Triban ddiwedd yr wythnos."

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llwyfannau ar draws y maes yn cynnig cyfle i ymlacio a mwynhau

Mae'r datblygiadau i'r ŵyl eleni yn cynnwys gweithio gyda phum curadur ifanc i sicrhau fod arlwy gŵyl Triban yn gynhwysol ac yn berthnasol i bobl ifanc.

Mae newid i drefn y prif seremonïau eleni gyda phob seremoni yn cael eu cynnal ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn am 14:30.

Datblygiad arall newydd eleni yw y bydd gwaith buddugol y prif lenorion ar gael yn syth ar ôl y seremonïau.

Mewn cydweithrediad gyda Chyhoeddiadau'r Stamp, os bydd teilyngdod, bydd gwaith y buddugol yn cael eu cyhoeddi ar ffurf pamffledi fydd ar gael yn syth wedi'r defodau dyddiol - y Fedal Ddrama, y Gadair a'r Goron.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Eisteddfod yn dechrau ddydd Sul, 26 Mai

Ychwanegodd Bedwyr Fychan, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: "Mae hi'n 36 mlynedd ers y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ddod i Faldwyn a dwi mor falch o weld Eisteddfod Maldwyn 2024 yn cyrraedd o'r diwedd.

"Mae'r bwrlwm a'r brwdfrydedd wedi bod yn magu momentwm dros y misoedd diwethaf ar draws y sir a'r ymdrech i gasglu arian wedi bod yn arbennig.

"Mae'n wych fod mwy o blant a phobl ifanc Maldwyn wedi cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth nag erioed o'r blaen, a mwy o gystadleuwyr eleni nag yn unrhyw ranbarth arall yng Nghymru at hynny."

Bydd yr Eisteddfod yn agor ar ddydd Sul, 26 Mai gyda pherfformiadau o'r Sioe Gynradd (13:00 a 16:00) a'r Sioe Uwchradd (19:00).

I gloi'r wythnos bydd Gŵyl Triban yn cael ei chynnal nos Wener 31 Mai a dydd Sadwrn 1 Mehefin gyda Bwncath ac Eden yn perfformio.