Cynhyrchydd BBC wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar wyliau

- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod cynhyrchydd radio gyda'r BBC wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar wyliau teuluol yng Nghanada.
Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron Pontypridd fod Lynda Shahwan, 53 oed o'r Mynydd Bychan, Caerdydd, yn teithio mewn car a drodd ar ei ochr yn dilyn gwrthdrawiad yng ngogledd Vancouver ar 15 Gorffennaf eleni.
Fe wnaeth Ms Shahwan, oedd yn gweithio i BBC Radio Wales, dderbyn triniaeth yn ysbyty Lionsgate ar gyfer anafiadau i'w hasennau, ei habdomen a'i hysgyfaint.
Fe wnaeth hi aros yng Nghanada am nad oedd yn ddigon iach i deithio, tra bod gweddill y teulu wedi teithio'n ôl i Gymru.
Cafodd ei chanfod yn farw ar 19 Gorffennaf ar ôl i'w gŵr roi gwybod i'r heddlu nad oedd yn medru cael gafael arni.
Cafodd achos y farwolaeth ei gofnodi dros dro fel digwyddiad cerbyd modur a pheritonitis.
Fe wnaeth y Crwner Andrew Morse ohirio'r cwest.