Tomasz Waga: Gollwng cyhuddiadau yn erbyn dau ddyn
- Cyhoeddwyd
Mae cyhuddiadau wedi cael eu gollwng yn erbyn dau ddyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn a gafodd ei ladd yng Nghaerdydd am geisio dwyn cyffuriau.
Fe gafodd Tomasz Waga ei lofruddio gan aelodau giang ym mis Ionawr 2021 wedi iddo geisio dwyn gwerth tua £120,000 o gyffuriau o ffatri ganabis mewn tŷ.
Roedd Elidon Elezi, 23 oed ac o East Finchley yn Llundain, ac Artan Palluci, 31 oed ac o Gaerdydd, yn wynebu cyhuddiadau o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol (organised crime group) ac o dorri amodau mechnïaeth.
Fe glywodd gwrandawiad yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Mercher bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dod â'r achos yn erbyn y ddau i ben.
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023
Fe gafwyd Josif Nushi a Mihal Dhana yn euog fis Rhagfyr y llynedd o lofruddio Mr Waga, a Hysland Aliaj yn euog o ddynladdiad.
Roedd dau ddyn arall, Gledis Mehalla a Mario Qatoand, eisoes wedi eu cael yn ddieuog o lofruddiaeth.