Teyrnged i dad 'gofalgar' fu farw tra'n gweithio yn Sir Benfro

Ryan RobersFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Ryan Robers ei fod yn ddyn "doniol, gweithgar, a thriw"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw tra'n gweithio mewn eiddo yn Sir Benfro wedi ei ddisgrifio fel dyn "cariadus a thriw".

Cafodd Ryan Roberts, 34 oed, ei anafu tra'n gweithio ar fferm yn Llangwm ar 12 Medi, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd dyn 60 oed wedi arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol wedi'r digwyddiad, ond cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.

Cafodd dyn 64 oed ei gyfweld yn wirfoddol hefyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Y teulu 'wedi eu llorio'

Wrth roi teyrnged iddo, fe ddywedodd ei deulu mewn datganiad fod "ei bartner Kirsty a'i ddwy ferch hardd, Jaida a Talia wedi eu llorio gan y golled sydyn".

"Roedd Ryan yn ddyn teulu, roedd ei gi T Boy wrth ei ymyl o hyd, roedd yn caru clwb pêl-droed Lerpwl ac roedd ganddo angerdd gwirioneddol am ei waith.

"Roedd Ryan yn driw, yn gariadus, gofalgar, doniol, yn weithiwr caled ac yn gymeriad ffyddlon.

"Roedd yn medru goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi, fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac roedd yn cael ei garu gan bawb a gafodd y pleser o'i adnabod."

Mae swyddogion yn gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wrth ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig