Teyrngedau i ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad gyda thractor

Sarah Elizabeth Grimshaw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Sarah Elizabeth Grimshaw "galon o aur" yn ôl ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes 39 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a thractor yn dweud y bydd "colled fawr" ar ei hôl.

Bu farw Sarah Elizabeth Grimshaw o ardal Y Waun yn yr ysbyty ar 27 Chwefror, ar ôl y digwyddiad yn Llangollen bron i fis ynghynt.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl y gwrthdrawiad ar Ffordd yr Abaty yn Llangollen toc wedi 07:00 ddydd Mawrth, 30 Ionawr.

Roedd Ms Grimshaw yn gyrru Kia Rio pan wrthdarodd â thractor gwyrdd.

Fe gafodd ei hanfon i’r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol ac yna’i symud i Ysbyty Maelor, Wrecsam, lle bu farw yn ddiweddarach.

'Calon o aur'

Mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi, gan ddweud “ei bod hi wedi bod yn fraint rhannu ein bywydau gyda Sarah”.

“Roedd ganddi’r gallu anhygoel i gerdded i mewn i ystafell a goleuo diwrnodau pawb gyda’i hegni di-ddiwedd. Roedd ganddi galon o aur.”

“Sarah oedd y wraig, y ferch, y chwaer a’r arweinydd Brownie fwyaf caredig ac anhunanol.

"Roedd ei chynhesrwydd heintus yn gwneud y byd yn lle gwell i bawb fyddai’n dod i gysylltiad â hi.

"Bydd colled fawr ar ôl Sarah a bydd ein bywydau yn dywyllach am byth hebddi."

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio ar unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad neu unrhywun sydd â deunydd dashcam i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig