Llywodraeth Cymru 'ddim yn deall bywyd' ger chwarel
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru'n dweud eu bod yn "ddig" ac "wedi syfrdanu" gyda Llywodraeth Cymru, gan eu cyhuddo o "fethu â deall sut mae bywyd" ger chwarel ddadleuol.
Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James gymeradwyo ehangu chwarel Craig-yr-Hesg ger Glyncoch, Pontypridd, yn dilyn apêl.
Roedd hynny wedi i bwyllgor cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf wrthod y cynlluniau ddwywaith.
Roedd yna gydnabyddiaeth gan yr Arolygydd Cynlluniau y "byddai rhywfaint o niwed i'r hyfrydwch yn lleol" o ran sŵn ac ansawdd aer, ond y byddai'r "amodau awgrymedig yn cyfyngu'r effeithiau'n addas i safon dderbyniol".
Nododd hefyd bod gwrthwynebiadau blaenorol yn "anecdotaidd" a bod "dim tystiolaeth wrthrychol, annibynnol".
Mae tywodfaen penodol o'r chwarel yn cael ei ystyried yn "un o'r ffynonellau ansawdd gorau" o ran graean ffordd sy'n atal cerbydau rhag sglefrio "nid yn unig yn ne Cymru ond trwy'r DU".
Bydd 10 miliwn tunnell yn rhagor o'r tywodfaen yn cael ei gloddio dan y cynllun ehangu nes 2047.
Mae gwaith wedi dechrau ar glirio tir o amgylch y safle presennol ac mae trigolion lleol wedi trefnu cyfarfodydd cyhoeddus i fynegi eu gwrthwynebiad i'r datblygiad.
Ymhlith eu pryderon mae'r effaith bosib ar fywyd gwyllt ac ardaloedd gwyrdd, ac ofnau y gallai fod yn niweidiol i iechyd pobl leol a'u cartrefi.
'Fel daeargryn'
Mae ward Glyncoch ymhlith y 5% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn ôl data Llywodraeth Cymru.
Mae Anne Marie Coggins yn byw yn y pentref erioed.
A hithau'n dioddef gydag asthma, dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn credu bod y chwarel yn gwaethygu'r cyflwr.
"I mi, mae iechyd yn drech na phwysigrwydd y tywodfaen," dywedodd.
Mae'r cynlluniau ehangu yn golygu y bydd ffiniau newydd y chwarel o fewn ychydig gannoedd o fetrau i'r stryd ble mae hi'n byw.
Mae "fel daeargryn", meddai, bob tro mae yna ffrwydrad yn y chwarel.
Dywed ei bod "yn grac" gyda Llywodraeth Cymru am ganiatáu'r estyniad gan nad ydyn nhw'n "cael yr holl broblemau".
"Dydyn nhw ddim yn dioddef asthma a COPD fel rydyn ni i fyny fa'ma," meddai.
'Hollol syfrdan'
Roedd nifer o drigolion Glyncoch yn awyddus i ddangos craciau a namau yn waliau eu cartrefi a'u waliau terfyn.
Maen nhw'n honni taw dyma ganlyniad ffrwydradau'r chwarel.
Ym marn y cynghorydd Llafur lleol Doug Williams, a gafodd ddiagnosis diweddar o COPD ac emffysema, llwch o'r chwarel sydd wrth wraidd y cyflyrau.
Dywed hefyd bod trigolion yn cysylltu'n rheolaidd gan ddweud bod ffrwydradau'r chwarel wedi difrodi eu cartrefi.
Mae'n dweud ei fod yn "hollol syfrdan" bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu'r cynllun ehangu, a phe byddai'r gweinidog wedi ymweld â'r ardal, fe fyddai "wedi gweld dros ei hun bod rhywbeth o'i le yma".
Mae AS Plaid Cymru Heledd Fychan hefyd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru.
"Mae llais y gymuned wedi ei anwybyddu'n llwyr,” dywedodd.
"Maen nhw'n cael eu cosbi oherwydd gallu cwmni mawr i fforddio cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac ati, eto does neb i'w weld yn fodlon cefnogi brwydr y trigolion.
"Rwy'n meddwl bod yna anghysondeb mawr [gan Lywodraeth Cymru]. Ni allwch ddatgan argyfwng hinsawdd a pheidio dilyn y trywydd yna.
"Mae'n ymddangos eu bod yn dweud un peth ond yn gwneud rhywbeth arall."
Dywed Llywodraeth Cymru na allai gweinidogion roi sylw ynghylch caniatáu'r apêl cynllunio gan fod y penderfyniad, dan ddeddfau cynllunio, yn derfynol.
Mewn datganiad hir, dywedodd perchennog y chwarel, Heidelberg Materials, bod apêl y cwmni yn erbyn y gwrthodiadau gwreiddiol wedi canfod "bod pryderon trigolion lleol heb eu cadarnhau gan dystiolaeth dechnegol y cyflwynodd Heidelberg Materials UK" a bod y dystiolaeth yna "wedi ei dderbyn" gan y cyngor sir.
Daeth y gwrandawiad, meddai, i'r casgliad y byddai'r cynigion "gyda'u mesurau lliniaru, yn cydymffurfio gyda'r cynllun datblygu a'r polisi cynllunio Cymreig perthnasol".
Dywed y cwmni eu bod wedi cynnal arolygon adar magu ac yn monitro ehedyddion gan weithio "gydag ecolegydd i sicrhau na fydd ein gwaith yn cael unrhyw effaith ar y rhywogaeth wrth fwrw ymlaen".
Ychwanegodd bod y sector yn cael ei reoli'n fanwl a bydden nhw'n "gweithio'n galed i leihau effeithiau posib ein gwaith ar ein cymdogion" a'u bod wedi sicrhau costau gan yr awdurdod lleol yn ystod y broses apêl.