Starmer yn penodi Jo Stevens yn Ysgrifennydd Cymru

Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jo Stevens yn cyrraedd Stryd Downing brynhawn Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae Jo Stevens wedi cael ei phenodi'n Ysgrifennydd Cymru gan Brif Weinidog Llafur newydd y DU, Syr Keir Starmer.

Dywedodd ei bod yn "benderfynol o ailosod y berthynas rhwng y Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru".

"Byddwn yn cydweithredu ac yn cydweithio i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru."

Roedd AS Dwyrain Caerdydd wedi gwasanaethu dan Syr Keir fel llefarydd materion Cymreig yr wrthblaid yn San Steffan ers Tachwedd 2021.

Hi yw'r fenyw gyntaf o'r Blaid Lafur i fod yn Ysgrifennydd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Lauren Hurley / No 10 Downing Street
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jo Stevens y bydd hi'n "sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu blaenoriaethu"

Bu'n gwneud y swydd honno am dri mis dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn 2016-17, nes iddi adael cabinet yr wrthblaid mewn protest yn erbyn penderfyniad i orfodi ASau Llafur i gefnogi'r mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe gafodd ei hethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol 2015, gan gynrychioli etholaeth Canol Caerdydd.

Oherwydd y newidiadau i ffiniau etholaethau, mae hi'n dychwelyd i San Steffan fel cynrychiolydd etholaeth newydd Dwyrain Caerdydd gyda mwyafrif o dros 9,000 o bleidleisiau dros ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar ôl cael ei phenodi, fe ddywedodd Jo Stevens AS: “Mae gan Gymru rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sbarduno adfywiad cenedlaethol y Deyrnas Unedig, gan gyfrannu at ein diogelwch ynni a’r diwydiannau a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus.

“Fy mlaenoriaeth yw gweithio dros Gymru a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlogi’r economi, sbarduno buddsoddiadau a chreu swyddi.

“O dan fy arweiniad i, bydd Swyddfa Cymru unwaith eto yn eiriolwr cadarn dros Gymru o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu blaenoriaethu, a bod ei llais yn cael ei glywed."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Mae'r penodiadau eraill i gabinet y llywodraeth newydd hefyd yn rhai oedd i'w disgwyl, o gofio rôl yr unigolion yng nghabinet yr wrthblaid.

Mae Rachel Reeves yn torri tir newydd trwy ddod yn Ganghellor benywaidd cyntaf y DU.

Angela Rayner yw'r Dirprwy Brif Weinidog, ac mae hi hefyd yn Ysgrifennydd Lefelu'r Gwastad, Tai a Chymunedau.

David Lammy yw'r Ysgifennydd Tramor newydd ac Yvette Cooper yw'r Ysgrifennydd Cartref.