Pum cyn-Ysgrifennydd Cymru wedi colli eu seddi
- Cyhoeddwyd
Roedd David TC Davies a phedwar cyn-Ysgrifennydd Cymru arall ymhlith nifer o wleidyddion adnabyddus i golli eu seddi ar noson drychinebus i’r Ceidwadwyr.
Yn gynnar iawn wedi i’r blychau pleidleisio gau dywedodd Mr Davies na fyddai’n Aelod Seneddol nac yn Ysgrifennydd Cymru erbyn diwedd y cyfrif.
Ychydig oriau yn ddiweddarach daeth cadarnhad o hynny wrth i Catherine Fookes o’r Blaid Lafur gipio Sir Fynwy gyda mwyafrif o 3,338.
Dywedodd fod y canlyniad yn "siomedig" ond ei bod yn bwysig iawn derbyn y canlyniad.
"Mae'r cyhoedd eisiau newid," meddai.
Fe wnaeth pob un cyn-Ysgrifennydd Cymru Ceidwadol oedd yn sefyll yn yr etholiad golli eu seddi.
Yn eu plith oedd Alun Cairns, sydd wedi cynrychioli Bro Morgannwg ers 2010.
Kanishka Narayan o’r blaid Lafur gipiodd y sedd honno, yr AS Cymreig cyntaf erioed o gefndir ethnig lleiafrifol.
Enillodd Mr Narayan gyda mwyafrif o 4,216, tra bod Mr Cairns yn ail.
Fe gollodd cyn-Ysgrifennydd Cymru arall, Stephen Crabb, ei sedd yng Nghanol a De Penfro.
Henry Tufnell o’r blaid Lafur oedd yn fuddugol gyda bron i 2,000 o fwyafrif.
Fe gipiodd Plaid Cymru sedd Caerfyrddin, gyda Simon Hart - prif chwip y Ceidwadwyr yn San Steffan - yn drydydd.
Roedd Mr Hart yn Ysgrifennydd Cymru yn llywodraeth Boris Johnson rhwng 2019 a 2022.
Syr Robert Buckland, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru am dri mis yn 2022, oedd yr AS cyntaf yn y DU i golli ei sedd wrth i Lafur gipio Swindon South.
Fe gafodd y Ceidwadwr, gafodd ei eni yn Llanelli, ei benodi yn lle Simon Hart gan Mr Johnson a pharhau yn y swydd wedyn dan arweinyddiaeth Liz Truss.
Cyn-brif weinidog ac aelodau Cabinet yn colli seddi
Fe wnaeth sawl enw mawr arall golli eu seddi yn Lloegr, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog Liz Truss.
Fe gollodd Ms Truss yn sedd De Orllewin Norfolk o 630 pleidlais i Lafur.
Roedd ganddi fwyafrif o 24,180 yn yr etholiad yn 2019.
Fe wnaeth y cyn-Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg, oedd yn ffigwr amlwg iawn yn llywodraeth Boris Johnson, hefyd golli ei sedd yng Ngogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf.
Roedd gan yntau fwyafrif clir o 16,000 yn yr etholiad diwethaf.
Un arall i golli ei sedd oedd arweinydd Tŷ’r Cyffredin Penny Mordaunt, welodd ei mwyafrif o 15,000 yn diflannu wrth i Lafur gipio etholaeth Gogledd Portsmouth o drwch blewyn.
Fe wnaeth aelodau’r Cabinet Grant Shapps, Alex Chalk a Michelle Donalan hefyd golli eu seddi.
I Lafur, fe wnaeth Jonathan Ashworth, ffigwr amlwg o fewn y blaid, golli De Caerlŷr i’r ymgeisydd annibynnol Shockat Adam.
Sunak a Hunt yn ddiogel
Ond fe gadwodd dau o aelodau mwyaf blaenllaw'r Cabinet eu swyddi.
Cadwodd y cyn-brif weinidog Rishi Sunak ei afael ar ei sedd yn Richmond a Northallerton yn gyfforddus, tra bod y Canghellor Jeremy Hunt wedi llwyddo i gadw ei sedd gyda mwyafrif bychan o 891.
Mewn araith yn ddiweddarach fore Gwener, fe gadarnhaodd Mr Sunak ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
"Byddaf yn ymddiswyddo... ddim yn syth, ond unwaith bydd y prosesau ffurfiol o ran dewis arweinydd newydd yn eu lle," meddai.