Arestio dyn lleol yn dilyn marwolaeth ym Mhwllheli

Fe fydd yna bresenoldeb sylweddol gan yr heddlu yn yr ardal wrth i ymholiadau barhau
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn ym Mhwllheli.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad fod y dyn - oedd yn lleol i'r ardal - wedi marw brynhawn Sadwrn, 9 Tachwedd.
Mae teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae dyn lleol arall wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Yn ôl y llu, fe fydd yna bresenoldeb sylweddol gan yr heddlu yn yr ardal wrth i ymholiadau gael eu cynnal.
Mae'r heddlu yn pwysleisio nad oes unrhyw fygythiad pellach i'r gymuned, ac maen nhw wedi diolch i drigolion lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad.
Maen nhw hefyd yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.