Pysgotwyr ifanc wedi canfod hen fom llaw 'peryglus' mewn afon

Y grenâd Mills o gyfnod yr Ail Ryfel Byd cyn i swyddogion arbenigol ei danio mewn ffrwydrad dan reolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi canmol criw o bysgotwyr ifanc am eu hymateb wedi iddyn nhw ddod ar draws hen fom llaw "peryglus".
Roedd y bechgyn yn pysgota yn ardal pentref Abercych, ger Aberteifi, pan ddaethon nhw ar draws y grenâd.
Fe gysylltodd y bechgyn â'r heddlu ac fe gadarnhaodd swyddogion o'r Adran Ordnans Ffrwydrol - ar ôl gosod cordon o'i amgylch - mai grenâd Mills o gyfnod yr Ail Ryfel Byd oedd y ddyfais.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y grenâd "yn fyw ac mewn cyflwr peryglus gan beri bod angen ei danio yn y fan a'r lle trwy ffrwydrad dan reolaeth".

Bu'n rhaid i swyddogion ordnans arbenigol ffrwydro'r ddyfais
Roedd y bechgyn, meddai'r llu, "wedi gwneud y peth cywir - trwy alw'r gwasanaethau brys" ar ôl dod ar draws y bom.
Ychwanegodd llefarydd: "Os dowch ar draws unrhyw beth amheus, y cyngor yw i beidio â'i gyffwrdd ac i gysylltu â'r gwasanaethau brys."
Fe gafodd y grenâd Mills ei ddatblygu yn wreiddiol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan Syr William Mills, a'i ddefnyddio'n helaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd y ddyfais siâp pinafal yn darnio'n deilchion wrth lanio ar ôl cael ei daflu gan ledu shrapnel haearn dros 30 medr.
Daeth y defnydd ohono yn y DU i ben tua diwedd y 1970au.