Bywydau pobl ag anableddau dysgu 'ddim mor bwysig i ni fel cymdeithas'

Menyw gyda gwallt golau a ffrog borffor yn edrych yn syth ymlaen ac yn gwenuFfynhonnell y llun, Richard Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alison Williams yn aelod o Mencap Môn a chwmni theatr Hijinks

  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwneud mwy i atal pobl ag anableddau dysgu rhag marw'n gynnar, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae adroddiadau'n nodi bod pobl ag anableddau dysgu yn marw 20 mlynedd yn gynt na'r boblogaeth ar gyfartaledd.

Roedd modd osgoi 39% o'r marwolaethau hynny, yn ôl adroddiadau marwolaeth.

Mae pryder hefyd ymysg rhieni ei bod hi'n anodd i unigolion gael mynediad llawn at holl wasanaethau'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu nod yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a lleihau ac osgoi marwolaethau cyn pryd o fewn y gymuned.

Disgrifiad,

Chwaer Carwyn Daniel, Nerys, fu'n sôn am drafferthion y teulu yn cael cymorth iddo

Bu farw brawd Nerys Daniel o Gwm Rheidol, Carwyn, yn 44 oed y llynedd.

Roedd gan Carwyn Daniel gyflwr spina bifida, ond ers degawdau roedd yn byw yn annibynnol gyda chymorth gofalwyr.

Yn gefnogwr brwd tîm pêl-droed Aberystwyth, roedd gan Carwyn dyslecsia a dyspracsia.

Yn ôl Nerys roedd cyfathrebu'n holl bwysig yn ystod apwyntiadau meddygol Carwyn, neu yn ystod y cyfnodau a dreuliodd yn yr ysbyty.

"Pan oeddech chi'n rhoi gormod o wybodaeth iddo fe, bydde fe'n drysu," meddai.

"Roeddech chi'n gorfod 'neud yn siŵr bo' chi'n rhoi 'chydig bach o wybodaeth ar y tro."

Dyn â sbectol ac yn gwisgo crys du yn eistedd mewn cadair olwyn. Mae'n gwisgo bathodyn penblwydd gyda'r rhif 40. Mae menyw gyda gwallt tywyll yn eistedd ochr yn ochr ag e.  Ffynhonnell y llun, Nerys Daniel
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carwyn Daniel wrth ei fodd yn cymdeithasu yn Aberystwyth, meddai ei chwaer Nerys

Ychwanegodd Nerys y byddai wedi bod o fantais i Carwyn dderbyn cefnogaeth gan nyrs anabledd dysgu - gweithiwr iechyd penodol sy'n cynorthwyo unigolion.

"Mae'n bwysig i rhywun sydd ag anghenion arbennig bod gyda nhw continuity o berson, bo' nhw'n trustio'r person yna a bod y person yna'n deall nhw.

"Roedd Carwyn yn lwcus - roedd gyda fe deulu cryf oedd yn helpu... ond weithie roedd e'n teimlo bo' ni'n gorfod ffeitio yn aml iawn am rhywbeth.

"Lle chi'n meddwl, tase nyrs efo ni sydd yn gallu helpu Carwyn - i siarad lan drosto fe pan oedd angen siarad lan - bydde hwnna wedi bod yn lot o help."

Dyn yn ei dridegau mewn siaced las yn eistedd ar dren. Mae modd gweld rhan o'r tren sy'n goch a gwyn y tu ôl iddo. Mae eira ar ochr y ffordd. Ffynhonnell y llun, Jane Young
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wiliam Young wedi ymddangos mewn dramâu theatr a theledu

Mae gan bobl ag anableddau dysgu hawl i brofion iechyd blynyddol gan eu meddyg teulu er mwyn ceisio darganfod unrhyw afiechydon neu broblemau'n gyflym.

Mae Wiliam Young, 35 o Gaergybi, ac Alison Williams, 42 o Lanfairpwll, yn aelodau o Mencap Môn.

Mae'r ddau bellach yn cael yr archwiliadau meddygol, ond mae rhieni'r ddau yn dweud eu bod wedi gorfod brwydro a gofyn amdano.

Mae gan Wiliam gyflwr niwrolegol prin, agenesis o'r corpus callosum.

Yn ôl ei fam Jane Young, mae'n rhaid iddi ofyn yn benodol i'r meddyg archwilio ei geilliau pan mae'n cael y gwiriad blynyddol.

"Mae 'na gymaint o ddynion yn cael canser y ceilliau, ac mae llawer mwy o ddynion efo anableddau dysgu yn cael y canser yma na'r boblogaeth yn gyffredinol," meddai.

Dyn â sbectol dywyll mewn crys-t glas yn edrych syth ymlaen. Mae ganddo wallt  a barf wedi britho.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Williams yn dweud bod ef a'i wraig wedi gorfod mynnu bod eu merch Alison yn cael archwiliad meddygol blynyddol

Mae gan Alison syndrom Down, a'i thad Richard Williams yn dweud bod y profion yn gallu peri gofid.

"Dwi ddim yn siwr faint yn ôl gafodd hi y smear test diwetha', mae'n siŵr rhyw 20 mlynedd yn ôl," meddai.

"Ga'th hi'r test ym Mangor, 'naeth o ddim mynd yn dda iawn, gafodd hi waed yn dangos a ballu ag 'naeth o ypestio hi.

"Ma' hi mwy na neb yn gwrthod mynd nôl i gael smear test ar ôl hwnna.

"Bob tro ma' 'na lythyr yn dod i'r tŷ acw, mae'n dweud tydy hi ddim am fynd."

Dyn ifanc yn edrych yn syth ymlaen gydag adeilad y Senedd yn y cefndir. Mae ganddo wallt tywyll cyrliog ac mae'n gwisgo siwmper glas tywyll.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siôn Jones o Mencap Cymru yn dweud bod angen gosod targedau ar gyfer archwiliadau meddygol

Fe gafodd adroddiad ei gyhoeddi y llynedd, yn nodi mai 67 yw'r oedran lle mae'r nifer fwyaf o farwolaethau'n digwydd ymhlith pobl sydd ag anableddau dysgu - dau ddegawd yn iau na'r boblogaeth ehangach.

Yn ôl Siôn Jones o Mencap Cymru, mae'r adroddiad yn un "damniol".

"Dydy hyn ddim yn rhywbeth dylen ni dderbyn, mae'n rhywbeth gallwn ni osgoi," meddai.

"Mae camau allwn ni gymryd o ran y system iechyd, y system gofal i leihau'r gap yma."

Ychwanegodd bod angen gwella'r gwiriadau iechyd a sicrhau cysondeb ar draws y wlad gan fod profiadau mor amrywiol.

"Mae angen gweld targedau o ran sawl gwiriad iechyd sydd wedi cael eu cynnig ond hefyd edrych ar safon y gwiriadau iechyd," meddai.

Dyn yn sefyll gyda choed a thai y tu ôl iddo. Mae'n gwisgo sbectol a siaced las.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r athro Edwin Jones o Brifysgol De Cymru yn codi amheuon am werthoedd cymdeithasol

Mae gwaith ymchwil newydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru am ofal diwedd oes i oedolion ag anableddau dysgu.

Mae'r Athro Edwin Jones o'r brifysgol, sy'n arbenigo mewn hawliau bobl sydd ag anableddau dysgu, yn dweud er bod rhai gwelliannau wedi'u gwneud ers cyhoeddi'r adroddiad, mae angen gwneud llawer mwy.

"Yn fy marn i, mae'r adroddiad yn glir ac yn dweud yn blaen fod bywydau bobl ac anableddau dysgu ddim mor bwysig i ni fel cymdeithas yng Nghymru â phobl eraill," meddai.

"Mae'n annheg ac yn annerbyniol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw strategaeth i geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Ychwanegodd llefarydd ei bod yn "ofynnol" i fyrddau iechyd gynnig archwiliadau iechyd blynyddol i oedolion ag anableddau dysgu.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddeall a chefnogi anghenion iechyd a gofal penodol pobl ag anableddau dysgu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.