Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ym Mlaenafon

Safle'r digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Rodfa Glan yr Afon ym Mlaenafon yn yr oriau mân fore Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 34 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Nhorfaen fore Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Rhodfa Glan yr Afon ym Mlaenafon yn oriau mân y bore, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol.

Bu farw dyn 47 oed o Flaenafon yn y fan a'r lle.

Mae dyn 34 oed o Dorfaen wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths o Heddlu Gwent: "Rydym yn deall bod adroddiadau o'r fath yn medru bod yn bryderus, ond rydym wedi arestio dyn o'r ardal, a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r digwyddiad."

Ychwanegodd y bydd gan y llu fwy o bresenoldeb yn yr ardal wrth i ymholiadau barhau.

Maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig