Dyn yn gwadu llofruddiaeth menyw, 32, yng Nghaerdydd

Mae Thisara Weragalage (dde) wedi gwadu llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi pledio'n ddieuog i lofruddio menyw gafodd ei darganfod yn farw ar stryd yng Nghaerdydd.
Cafodd Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, 32 oed, oedd yn cael ei hadnabod fel Nirodha, ei darganfod yn South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon ar 21 Awst.
Cafodd Thisara Weragalage o Bentwyn ei arestio yn ardal Sblot, ac fe ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Yn ystod y gwrandawiad byr, fe blediodd yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth, ac yn euog i gyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 28 Tachwedd, ac mae disgwyl i'r achos llawn gael ei gynnal yn Chwefror 2026.

Cafodd Nirodha Niwunhella ei chanfod yn farw ym mis Awst
Wrth roi teyrnged iddi adeg ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Niwunhella ei bod yn "ferch ac aelod annwyl o'r teulu, a ffrind i nifer".
"Fe fydd Nirodha yn cael ei chofio am byth gyda heddwch, cariad, a diolchgarwch", meddai'r datganiad.
"Fe gyffyrddodd hi â nifer o fywydau gyda'i charedigrwydd a'i chynhesrwydd, ac fe fydd hi'n dal i'n hysbrydoli ni.
"Er bod ei bywyd wedi dod i ben yn rhy gynnar, fe fydd y cariad rannodd hi, yn aros gyda ni am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst