Cyhuddo dyn, 37, o lofruddio menyw yng Nghaerdydd

Bu farw Dona Nirodha Kalapni Niwunhella ar 21 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae dyn, 37, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes y cafwyd hyd i'w chorff ar stryd yng Nghaerdydd.
Bu farw Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, oedd yn cael ei hadnabod fel Nirodha, wedi digwyddiad yn South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon fore Iau.
Yn fuan wedyn cafodd Thisara Weragalage o Bentwyn ei arestio yn Sblot ac yna fe gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Bu ger bron llys ynadon ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu bod y ddau yn adnabod ei gilydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon fore Iau
Dywedodd teulu Nirodha: "Byddwn yn cofio Nirodha fel merch ac aelod annwyl o'r teulu, a ffrind i nifer.
"Bydd Nirodha yn cael ei chofio am byth gyda heddwch, cariad a diolchgarwch.
"Fe wnaeth hi gyffwrdd â llawer o fywydau gyda'i charedigrwydd a'i chynhesrwydd, a bydd ei chof yn parhau i'n hysbrydoli.
"Er i'w bywyd ddod i ben yn rhy fuan, bydd y cariad a rannodd bob amser yn aros gyda ni. Cwsg mewn hedd angel."
Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Maen nhw'n enwedig eisiau clywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am gar Ford Fiesta llwyd oedd yn ardal South Morgan Place, neu Ffordd Seawall yn Sblot rhwng 07:30 a 08:30 fore Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst