Protestwyr yn atal staff cwmni arfau rhag mynd i'r gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae tua 50 o brotestwyr sy'n ymgyrchu dros y Palesteiniaid wedi atal aelodau staff rhag mynd i'w gwaith yn safle cwmni BAE Systems yn Sir Fynwy.
Mae'r brotest yng Nglascoed, ger Brynbuga, yn un o bedwar ar draws y DU sy'n cael eu cynnal er mwyn gwrthwynebu anfon arfau i Israel.
Dywedodd Heddlu Gwent bod swyddogion "yn bresennol er mwyn hwyluso cynulliad heddychlon a diogel".
Dywed y cwmni, sy'n cyflogi tua 550 o bobl yng Nglascoed, eu bod "yn parchu hawl pawb i brotestio".
Mae'r protestwyr - rhai wedi gorchuddio'u hwynebau - wedi blocio'r ffordd tu allan i ddau giât i'r safle, gan ddal baneri a llafarganu sloganau o blaid y Palesteiniaid.
Mae'n nhw'n dweud eu bod yn gwrthdystio yn erbyn cynhyrchu arfau rhyfel a'r gwrthdraro yn Gaza.
Yn ôl Neezo Dahan, sy'n disgrifio'i hun fel ymgyrchydd hawliau dynol, mae aelodau sawl grŵp yn rhan o'r brotest, gan gynnwys Clymblaid Heddwch Cymru.
Dywedodd: "Rydym yma i brotestio gan ddefnyddio ein hawl ddemocrataidd sylfaenol i wrthwynebu'r hil-laddiad sy'n parhau.
"Gobeithio y gallen ni weld y llefydd hyn yn cau am byth."
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
Mae swyddogion heddlu'n cadw golwg ar y sefyllfa wrth y ddwy fynedfa i'r safle.
Dywedodd llefarydd ar ran BAE Systems bod y "trais sy'n parhau yn y Dwyrain Canol yn cael effaith ddinistriol ar bobl gyffredin y rhanbarth" a'u bob yn gobeithio y gallai pawb sydd ynghlwm â'r gwrthdaro "ganfod ffordd o ddod â'r trais i ben mor fuan â phosib".
Ychwanegodd: "Rydym yn parchu hawl pawb i brotestio'n heddychlon.
"Rydym yn gweithredu dan y rheoliadau tynnaf ac yn cydymffurfio'n llawn gyda'r holl reolaethau allforio amddiffyn, sy'n destun asesiadau cyson."