Archesgob Cymru: Rhyfel yw'r 'opsiwn olaf'
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru wedi dweud nad yw'n "heddychwr", ond mai "opsiwn olaf" i ddatrys unrhyw anghydfod yw rhyfel.
Mae'r Parchedicaf Andrew John wedi galw am ddiwedd i'r rhyfel yn Gaza fel rhan o'i neges y Pasg.
Ond yn siarad ar raglen Beti a'i Phobol, fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru ddydd Sul, dywedodd nad yw'n teimlo ei fod yn "heddychwr".
Er hynny, dywedodd mai rhyfel ddylai fod yr "opsiwn olaf" i ddatrys unrhyw anghydfod.
'Rhy gyflym at y gwn a'r bom'
"Yn y bôn, os does 'na ddim dewis ar wahân i ryfel, dyna'r opsiwn olaf," meddai.
"Ond be' sy'n digwydd ar y cyfan, ni'n rhy gyflym i fynd yn syth at y gwn a'r bom, a ni ddim yn treulio digon o amser yn estyn dwylo a thrio deall pam fod sefyllfa wedi cael ei chreu - y cyd-destun pam fod pobl yn rhyfela."
Dywedodd Archesgob Cymru yn ei neges ei fod yn gobeithio y bydd modd dod o hyd i ddatrysiad i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y byd yn datblygu'n lle mwy teg pan fydd y rhyfeloedd yn Wcráin a Gaza yn dod i ben.
"Tu hwnt i'r rhyfeloedd erchyll… mae'n rhaid i ni sicrhau bod y dyfodol yn un sydd yn llawn tegwch a chyfiawnder," meddai.
"Un o'm gweddïau eleni yw [ar ôl y rhyfeloedd] fe fyddwn yn adfywio ac ail-adeiladu'r math o gymdeithas sydd yn deg, lle all pobl byw eu bywydau mewn modd sydd yn wahanol."
Yn ei sgwrs gyda Beti George bu hefyd yn dweud:
Mae'n hoff iawn o datŵs, ac mae ganddo datŵ mawr o Kiwi ar ei gefn, i nodi ei gyfnod fel plentyn yn Seland Newydd;
Roedd yn chwarae'r gitâr mewn band roc, ac mae'n hoff o grwpiau fel Rush a Led Zeppelin;
Mae wedi cael ysgariad ac wedi ail-briodi - rhywbeth na fyddai wedi cael ei ganiatáu yn ei swydd 20 mlynedd yn ôl;
Mae'n credu bod angen sgwrs am gyfreithloni cyffuriau meddal;
Mae'n cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Bydd rhaglen Beti a'i Phobol gydag Andrew John yn cael ei darlledu am 18:00 nos Sul ar BBC Radio Cymru.
Yn ei neges hefyd bu Andrew John yn rhoi clod i wirfoddolwyr sy'n helpu pobl mewn angen yn ystod yr argyfwng costau byw.
"Maen nhw'n rhoi eu hamser am ddim, ac mae'r Eglwys yn llawn pobl sy'n gwirfoddoli," meddai.
"Maen nhw yma pob ddydd Sul, ond maen nhw hefyd yn gweithio yn y banciau bwyd.
"Maen nhw'n sicrhau bod pobl yn ein cymunedau ni ddim yn mynd ar goll."
Gyda Chymru bellach â Phrif Weinidog newydd, dywedodd Archesgob Cymru mai ei neges i'r bobl sy'n rhedeg y wlad yw ei bod yn "bwysig bod yr agenda 'da ni'n rhannu yn un o gyfiawnder a thegwch".
"Mae 'na gyfrifoldeb ar y llywodraeth a phwy bynnag sy'n cynrychioli cymunedau, i sicrhau bod yr agenda yn un sydd yn cynnwys pawb.
"Bod y bobl sydd yn fregus, sydd mewn angen, yn sefyll reit yn y canol ac nid ar y ffiniau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2023