Parc Glasfryn ger Pwllheli yn nwylo gweinyddwyr

Parc Glasfryn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc Glasfryn yn Y Ffôr yn parhau i fod yn agored, gan gynnig gweithgareddau fel bowlio, saethyddiaeth a go-cartio i gwsmeriaid

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni sy'n rhedeg canolfan weithgareddau Parc Glasfryn ger Pwllheli wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, ar ôl mynd i ddyled o £300,000.

Ond mae'r ganolfan yn Y Ffôr yn parhau i fod yn agored, gan gynnig gweithgareddau fel bowlio, saethyddiaeth a go-cartio i gwsmeriaid.

Cafodd hysbysiad i ddod â Glasfryn Parc Ltd i ben yn wirfoddol ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr, 2024.

Yn ôl datganiadau gan y perchennog a'r cyfarwyddwr, Jonathan Clough Williams-Ellis, roedd y cwmni mewn dyled o £100,000 i adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a £20,000 i Gyngor Gwynedd, yn ogystal â dyledion eraill.

Ym mis Medi, cafodd cwmni arall ei sefydlu gan y perchennog - Glasfryn Activity Park Limited - a dyna'r enw sy'n ymddangos wrth chwilio am y parc ar y we.

Yn ôl hysbysiad swyddogol gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf yn y London Gazette, mae cwmni Glasfryn Parc yn nwylo diddymwyr sydd wedi eu lleoli yn Lerpwl.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Mr Clough Williams-Ellis am sylw.

Pynciau cysylltiedig