Prinder cigyddion ifanc yng Nghymru yn 'broblem fawr'

Arwyn Morgans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 'drueni', medd Arwyn Morgans, fod llai o bobl ifanc yn mentro i'r diwydiant

  • Cyhoeddwyd

Wrth i gystadleuaeth newydd gael ei lansio yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd i gigyddion dorri asen, mae rhai o enwau mwyaf adnabyddus y diwydiant cig yng Nghymru yn rhybuddio bod llai o bobl ifanc yn cynnig am brentisiaethau mewn siopau cigyddion a lladd-dai.

Beirniad y gystadleuaeth newydd yw'r cigydd lleol o Lanfair-ym-Muallt, Arwyn Morgans, sydd wedi gweithio mewn lladd-dai ac yn ei siop am dros 60 mlynedd.

Mae'n dweud ei fod wir yn poeni am y dyfodol gan fod llai a llai o bobl yn ceisio am lefydd fel prentisiaid.

Dywedodd: "Mae yn broblem fawr, mae yn swydd dda â chyflog da.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llai o bobl ifanc yn ceisio am brentisiaethau mewn siopau cig a lladd-dai

"Mae prentis wedi dechre gyda fi beth amser yn ôl ond mae e yn eithriad. Mae yn drueni.

"Pan o'n i yn 13 oed fe ddwedes i bo fi ishe mynd i weithio mewn lladd-dy ac rwy' wedi g'neud popeth yn y diwydiant.

"Gallai fridio anifail, ei fagu e, ei ladd e, ei dorri fe a'i werthu e.

"Does dim llawer ohonon ni ar ôl. Ry'n ni yn dying breed.

"Dy'n ni ddim yn annog digon o bobl ifanc i ddod mewn i'r busnes."

A fydd ymchwil yn achub y sector?

Er yn cydnabod ei bod hi'n anodd i ddenu pobl ifanc i'r diwydiant cig ac i fod yn gigyddion, mae Hybu Cig Cymru'n dweud eu bod yn gwneud ymdrech fawr i wella'r sefyllfa.

Maen nhw wedi cychwyn clwb cigyddion er mwyn helpu hyrwyddo prentisiaethau a sgiliau, ac hefyd i gynorthwyo cigyddion i farchnata eu cynnyrch.

Dywedodd Liz Hunter, sy'n gyfrifol am farchnata digidol Hybu Cig Cymru: "Mae prinder cigyddion ifanc yn y sector a ry'n ni yn trio helpu gyda gwybodaeth ac ymchwil ac ati."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cystadleuaeth newydd i gigyddion wedi ei lansio yn Sioe Aeaf Lanelwedd

"Mae y cwsmer yn teimlo bod gwybodaeth y cigydd yn bwysig ac mae hyn yn help mawr o ran gwerthiant.

"Ry'n ni wedi g'neud ymchwil sy' yn dangos fod un o bob 10 person ym Mhrydain yn siopa yn siop y cigydd lleol, felly mae hwnna yn rhoi syniad i chi o pa mor bwysig yw y sector."

'Hynod o heriol'

Mae'r cigydd Dewi Roberts o Landeilo yn wyneb cyfarwydd yn y Neuadd Fwyd yn ystod Sioe Fawr yr haf a'r Ffair Aeaf.

Mae'n gigydd teuluol llwyddiannus ac adnabyddus, ond mae'n dweud fod denu prentisiaid yn hynod o heriol.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi Roberts yn wyneb cyfarwydd yn y neuadd fwyd

"Mae cyfle i 'neud bywoliaeth dda gyda chrefft bwtsiera, ond s'dim digon o blant a phobl ifanc yn cael eu cyfeirio at y busnes cig.

"Ar un adeg roedd prentis gyda fi bob blwyddyn neu ddwy, ond symo'i wedi cael neb yn cynnig am le i fod yn brentis am 10 mlynedd.

"Mae y prentis diwetha' sy' gyda fi yn wych a gobeithio bydd e yn cymryd y busnes drosodd ond m'a ishe prentis arno fe."

Mae Mr Roberts yn rhybuddio y bydd yn broblem fawr i'r diwydiant os na fydd y sefyllfa'n gwella.

"Bydden i wrth fy modd yn gweld mwy o bobl ifanc yn cnocio drws y siop yn gofyn am brentisiaeth, a bydden i yn dweud wrthyn nhw 'dewch i mewn- croeso'."

Pynciau cysylltiedig