Arestio pedwar ar ôl ymgyrch heddlu arfog ym Mlaenau Ffestiniog

Heol CromwellFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu gynnal yr ymgyrch yn ardal Heol Cromwell ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar person wedi cael eu harestio yn dilyn ymgyrch gan heddlu arfog ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos.

Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gynnal yr ymgyrch yn ardal Heol Cromwell ddydd Sadwrn, wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad bod rhywun wedi ymosod ar ddyn yno bron i bythefnos yn ôl ar 16 Hydref.

Dywedodd y llu eu bod wedi dod o hyd i arfau a chyffuriau mewn eiddo yno.

Cafodd tri pherson eu harestio ar amheuaeth o glwyfo, aflonyddu, bod ag arfau yn eu meddiant a bod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant.

Cafodd pedwerydd person ei arestio ar amheuaeth o fod ag arfau bygythiol mewn tŷ preifat, a bod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant.

Ers hynny maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

'Digwyddiad ynysig'

Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones: “Hoffwn ddiolch i drigolion am eu help a'u dealltwriaeth wrth i'r heddlu ddelio hefo'r digwyddiad hwn ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos.

"Dwi'n deall y gall presenoldeb swyddogion arfog achosi pryder yn y gymuned, ond hoffwn sicrhau ei fod yn ddigwyddiad ynysig heb unrhyw fygythiad i'r gymuned ehangach.

"Bydd swyddogion lleol yn parhau i batrolio'r ardal leol er mwyn tawelu meddyliau trigolion."