Ymgyrch i ddiogelu unig feddygfa dinas leiaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi cael ei lansio gan bobl Tyddewi i geisio diogelu unig feddygfa dinas leiaf Cymru.
Mae 2,700 o gleifion wedi eu cofrestru yno, ond mae unig feddyg y practis wedi penderfynu ildio'r cytundeb i ddarparu gwasanaeth meddygon teulu yn lleol ddiwedd mis Hydref.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod wedi ymrwymo i ganfod "ateb cynaliadwy" i ddarparu gwasanaethau yn yr ardal.
Fe wnaeth cannoedd o bobl fynychu digwyddiad "galw mewn" yn Neuadd y Ddinas ddydd Gwener.
Mae trigolion lleol wedi ffurfio grŵp ymgyrchu, Achubwch ein Meddygfa, er mwyn ceisio cadw gwasanaeth meddygon teulu yn Nhyddewi.
Fe wnaeth cannoedd ymgynnull yno dros y penwythnos i lansio'r ymgyrch.
Dyma'r bedwaredd feddygfa i ildio ei chytundeb i ddarparu gwasanaethau meddyg teulu yn ardal Hywel Dda ers 2022.
Penderfynodd y meddyg yn Solfach, tair milltir i ffwrdd, i ildio ei chytundeb ddiwedd mis Mawrth 2023.
Mae gan y feddygfa honno 2,145 o gleifion yn ôl ystadegau diweddaraf y bwrdd iechyd.
Ar hyn o bryd, meddygon locwm a chyflogedig sy'n darparu gwasanaeth yn Solfach, dan arweiniad y bwrdd iechyd.
Mewn datganiad, dywedodd Jill Paterson, cyfarwyddwr gofal sylfaenol, cymunedol a gofal hirdymor Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Hoffem roi sicrwydd i gleifion Meddygfa Tyddewi ein bod yn gweithio i ddod o hyd i ateb cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau yn dilyn ildio cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ym mis Hydref.
"Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o gleifion â phosibl ac mae nifer o ffyrdd y gall cleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Tyddewi ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau, gan gynnwys y digwyddiad galw heibio yn Neuadd y Ddinas Tyddewi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur Cymru eu bod wedi cynnig "ysgogiad ariannol" ers 2017 i bobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu "er mwyn eu denu i ardaloedd ar draws y wlad sydd, yn hanesyddol, yn anodd o ran recriwtio".
Beirniadu record Llafur yng Nghymru mae'r Ceidwadwyr, gan honni bod bron i 100 o feddygfeydd wedi eu colli mewn degawd, ac addo i wario "pob ceiniog" y mae Cymru'n ei dderbyn at y GIG gan Lywodraeth y DU.
Dywed Plaid Cymru y bydden nhw'n mynd i'r afael â'r gostyngiad yn niferoedd meddygon teulu trwy "adfer cyllid ar gyfer meddygon teulu i 8.7% o gyllid iechyd Cymru, a thrwy benodi 500 yn fwy o feddygon teulu ar draws y wlad".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2023