Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad un cerbyd ym Mro Morgannwg

- Cyhoeddwyd
Mae dyn, 44, oed wedi gwrthdrawiad un cerbyd ger Saint-y-brid ym Mro Morgannwg.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 07:30 fore Llun wedi adroddiadau fod car wedi troi drosodd rhwng Pant y Groes Lodge a chyfnewidfa Heol Las.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Dywedodd yr heddlu fod perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod, ac mae ymchwiliadau i'r gwrthdrawiad yn parhau.